Storio a Rhannu
2.3
Arbed Mewn Manylder
Rheoli ffolderi
Mae pob un ohonom yn gwybod sut beth ydy ffolder blêr. (Ydych chi wedi gweld gweinydd eich ysgol yn ddiweddar?) Edrychwch ar y gweithgaredd ‘Lle yn y Cwmwl’ yn 2.2. ‘Cydweithio’ i helpu i’w dysgu i ofalu am eu gyrrwyr ar-lein.
Rhannu
Pa bleser sydd yna mewn gwneud fideo neu ddylunio poster os nad oes neb fyth yn ei weld. Dylid dangos pob tasg fideo gorffenedig i’r dosbarth o leiaf. Dylid arddangos pob poster. Fe fydd arbed yn y cwmwl yn galluogi eich disgyblion i rannu yn rhwydd.
- Gwnewch yn siŵr fod eich disgyblion yn gwybod sut i lanlwytho fideos a lluniau o iPad i'r cwmwl (Google Drive, One Drive, J2E).
- Dysgwch nhw sut i newid gosodiadau rhannu ar gyfer dogfennau yn y cwmwl fel eu bod yn gallu rhannu a chyd-ddisgyblion.
- Dylai disgyblion allu creu codau QR i arddangos eu gwaith.
- Os nad yw'r gwaith yn dangos enw neu lun y disgybl, gallwch ei lanlwytho i wefan yr ysgol neu (os ydy polisi'r ysgol yn caniatáu) YouTube.
Dyw arbed ddim yn anodd i’w addysgu na’i ddysgu. Dysgwch nhw’n union sut i’w wneud ac fe fyddan nhw’n ei wneud yn berffaith drwy gydol y flwyddyn!