Cynllunio, Cyrchu a Chwilio
3.1
Gweithgaredd 1
Fy Meini Prawf Llwyddiant
Gellir cyflawni agwedd gynllunio’r elfen yma drwy nifer o weithgareddau cynllunio. Mae’r disgyblion yn defnyddio’r math yma o gynllunio ym mhob pwnc gan lunio eu meini prawf llwyddiant eu hunain, yn dangos sut i’w cyflawni ac yn creu cynllun ar gyfer eu gwaith o flaen llaw, Does yna ddim angen penodol i wneud y cynllunio yma gyda thechnoleg, ond os ydych eisiau ymgorffori technoleg yna dyma un ffordd o wneud hynny:
Gweithgareddau:
- Pan fydd gennych dasg prosesu geiriau neu gyflwyno, cyflwynwch ef ac anogwch drafodaeth dosbarth fel bod y disgyblion yn gallu nodi eu rhestr eu hunain o feini prawf llwyddiant.
- Gofynnwch i bob disgybl ddefnyddio’r swyddogaeth sylwadau ar Office 365 neu Google Docs/Slides i deipio eu meini prawf llwyddiant eu hunain. Fe fydd wedyn bob amser yn weledol iddyn nhw wrth iddyn nhw greu eu prif dasg.
Cofiwch
- Fe ddylai eich disgyblion fod yn hyderus iawn wrth ddefnyddio’r swyddogaeth sylwadau gan fod hynny’n rhan o’u gweithgareddau ‘Cydweithio’ yn y blynyddoedd blaenorol.
Activity 2
Nod Tudalen Personol
Fel oedolion, rydyn ni’n defnyddio nodau tudalen i’w gwneud hi’n hawdd i gael mynediad i’r safleoedd holl bwysig hynny (beth bynnag fo rheiny!) Yn aml mae hyn yn creu anawsterau os ydy’r disgyblion yn defnyddio mewngofnodion sy’n cael eu rhannu ac fe fydd nodau tudalen pawb yn cael eu cymysgu. Ond, os ydy eich disgyblion yn mewngofnodi i ddyfeisiadau gyda mewngofnodion unigol (yn enwedig Chromebooks) yna mae’r broblem yna’n diflannu oherwydd bod gan pob plentyn ei ofod nod tudalen ei hun
Mae’r gweithgaredd yma felly yn cael ei ddisgrifio mewn dwy ffordd – un ar gyfer y rhai gyda mewngofnodion unigol ac un arall heb fewngofnodion unigol.
Paratoi:
- Penderfynwch pa fersiwn o’r gweithgaredd i’w addysgu!
- Gwyliwch y fideo isod.
Mewngofnodion unigol
Os oes gan eich disgyblion fewngofnodion unigol i gyfrifiaduron yr ysgol (e.e. Chromebooks) yna fe fydd eu nodau tudalen yn cael eu harbed ar wahân ac ni fyddan nhw’n cael eu cymysgu gyda rhai gweddill y dosbarth.
- Gofynnwch i’r disgyblion sut maen nhw’n cyrraedd gwefan neilltuol y maen nhw’n ymweld â hi’n aml (teipio cyfeiriad, chwiliad Google, nodau tudalen).
- Dangoswch iddyn nhw sut mae gennych nodau tudalen yn gysylltiedig gyda’ch safleoedd pwysig. Dangoswch iddyn nhw pa mor gyflym y gallwch gyrraedd eich safleoedd nawr.
- Ewch i safle sydd yn berthnasol i’ch pwnc cyfredol. Dangoswch iddyn nhw mor hawdd ydy ychwanegu nodau tudalen. (Os nad ydych yn sicr sut, gwyliwch y fideo isod)
- Gofynnwch i’r disgyblion ychwanegu’r un safle i’w nodau tudalen.
- Nawr ychwanegwch ychydig rhagor o safleoedd defnyddiol ar gyfer eich pwnc, a dangoswch sut i greu ffolderi nodau tudalen i’w trefnu nhw gyda’i gilydd.
- Rhowch gyfle i’ch disgyblion greu nodau tudalen ar gyfer y gwefannau maen nhw’n eu defnyddio amlaf a rhoi trefn arnyn nhw gyda ffolderi.
Mewngofnodion ar y cyd
Gan nad oes gan eich disgyblion fewngofnodion personol, fe fydd hi’n anodd iddyn nhw ddefnyddio nodau tudalen yn rheolaidd gan y byddai’r nodau tudalen gan yr holl wahanol ddisgyblion yn cael eu cymysgu. Rydyn ni felly yn defnyddio gwefan nodau tudalen i’n helpu.
- Gofynnwch i’r disgyblion sut maen nhw’n cyrraedd gwefan nelltuol y maen nhw’n ymweld â hi’n aml (teipiwch y cyfeiriad, chwiliad Google, nodau tudalen).
- Dangoswch iddyn nhw sut mae gennych nodau tudalen yn gysylltiedig gyda’ch safleoedd pwysig. Dangoswch pa mor gyflym y gallwch gyrraedd y safle honno nawr.
- Ewch i wefan nodau tudalen cwmwl (rydyn ni’n awgrymu saved.io), dangoswch i’r disgyblion sut i greu cyfrif yn unig (does dim angen enwau, dim ond e-bost yr ysgol a chyfrinair).
- Ewch i safle sydd yn berthnasol i’ch pwnc cyfredol, dangoswch pa mor hawdd ydy ychwanegu nod tudalen. (Gyda saved.io y cyfan maen nhw’n ei wneud ydy mewnosod ‘saved.io/’ cyn cyfeiriad y wefan).
- Gofynnwch i’r disgybion greu cyfrif nod tudalen cwmwl ac ychwanegu safle’r pwnc ato.
- Nawr ychwanegwch ychydig rhagor o safleoedd sydd yn ddefnyddiol i’ch pwnc a dangoswch sut i greu ffolderi nodau tudalen i’w trefnu nhw gyda’i gilydd.
- Rhowch gyfle i’ch disgyblion greu nodau tudalen ar gyfer y gwefannau maen nhw’n eu defnyddio amlaf a rhoi trefn arnyn nhw gyda ffolderi.
Nodau Tudalen (Bookmarks) yn Chrome
Cofiwch
- Unwaith maen nhw wedi dysgu sut i greu Nodau Tudalen, naill ai ar eu mewngofnodion personol neu yn y cwmwl, atgoffwch nhw’n rheolaidd i ddefnyddio neu ychwanegu at eu nodau tudalen.
Gweithgaredd 3
Newyddion Ffug
Mae’r gweithgaredd yma‘n debyg i weithgaredd Blwyddyn 5 gan fod angen atgyfnerthu’r sgil o ddilysu gwybodaeth ar-lein. Yn yr oes yma o gamwybodaeth a hawliadau beiddgar, mae’n bwysig bod disgyblion yn ymarfer y grefft o brofi neu ddadbrofi gwybodaeth. Fe fyddwch yn dangos rhai erthyglau newyddion i’r disgyblion, rhai ohonyn nhw’n wir a rhai’n ffug! Fe fydd rhaid i’r disgyblion rasio i ddarganfod tair ffynhonnell sydd naill ai’n profi neu yn dadbrofi’r erthygl.
Paratoi:
- Chwiliwch am amrediad o erthyglau newyddion ar unrhyw bwnc, gwnewch yn siŵr eu bod yn briodol o ran oedran mewn cynnwys ac anhawster darllen.
- Nawr chwiliwch (neu ysgrifennwch) rhywfaint o newyddion ffug. Mae yna ddigon ar gael ar wefannau dychanol fel The Onion (unwaith eto gwnewch yn siŵr eu bod yn briodol o ran oedran ac anhawster darllen).
- Efallai y gallech dynnu ciplun neu argraffu copïau os oes dolenni amhriodol ar y safleoedd.
Gweithgareddau:
- Esboniwch i’r disgyblion bod llawer o gamgymeriadau, gorddweud a chelwyddau noeth ar y rhyngrwyd, ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn enwedig. Yn aml mae’n anodd gweithio allan beth sydd yn wir a beth sydd ddim yn wir ac felly rhaid inni fod yn wyliadwrus ac yn barod i wirio unrhyw ‘newyddion’ sydd yn ymddangos yn rhy dda neu yn rhy wallgof i fod yn wir!
- Trafodwch bethau i’w hystyried pan yn darllen erthyglau newyddion (pwy sydd wedi ei chyhoeddi, ydy e’n cynnwys dyfyniadau a ffeithiau gwirioneddol, ydy’r pennawd yn gorddweud?)
- Gofynnwch iddyn nhw ddethol dwy erthygl y maen nhw’n gredu sydd yn ffug ac un y maen nhw’n sicr sydd yn wir.
- Trafodwch sut y mae modd iddyn nhw brofi neu ddadbrofi’r erthyglau yma. Atgoffwch nhw sut i chwilio’n effeithiol gan ddefnyddio allweddeiriau a sganio’r prif ganlyniadau.
- Fe ddylai’r disgyblion ddefnyddio chwiliad ar-lein i ddarganfod tair ffynhonnell sydd yn profi neu yn dadbrofi pob erthygl. Fe ddylen nhw greu dogfen brosesu geiriau a chopïo’r dolenni i bob un fel tystiolaeth.