Menu

Prosesu Geiriau

3.2 - Creu

Cyflwyniad

Mae prosesu geiriau yn un o agweddau 3.2 'Creu'. Mae’n ymwneud â chreu a golygu testun.

Ym Mlwyddyn 6 rydyn ni’n defnyddio amrediad o sgiliau cynllunio a dylunio i greu pamffled (heb ddefnyddio templedau!) ac yna’n cael ras i addasu straeon gan ddefnyddio ‘Darganfod ac Amnewid’.

Fframwaith

3.2 - Creu

  • Defnyddio ystod o feddalwedd i gynhyrchu a mireinio cydrannau aml-gyfryngol
  • Dewis a chyfuno ystod o destun, delwedd, sain, animeiddiad a fideo i sicrhau canlyniad at ddiben penodol; defnyddio dulliau meddalwedd i wella'r canlyniadau ar gyfer cynulleidfaoedd penodol.

Sgil wrth Sgil

  • Trefnu gwaith ar gyfer cynulleidfa a'i ail drefnu ar gyfer cynulleidfa wahanol.
  • Deall pryd i gyfiawnhau ffont. 
  • Ychwanegu geiriau i'r gwiriwr sillafu pan yn sicr o'r cywirdeb. 
  • Argraffu ar ddwy ochor papur a lleihau drwy ddefnyddio canrannau.
  • Cwtogi lluniau a defnyddio masgiau i newid eu siâp.
  • Defnyddio 'Find and Replace'
  • Esbonio eu dewis o faint a steil ffont.
  • Dewis steil ffont addas yn lle defnyddio WordArt.
  • Defnyddio’r bysellfwrdd i olygu dogfen e.e. Ctrl x, Ctrl c, Ctrl v

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

sefydlu     portread     tirwedd     canoli     alinio     cyfiawnhau     amlapio     colofn     'find and replace'

Gweithgaredd 1

Pamffled o’r Newydd

Pamffled yr Wyddfa

Ym Mlwyddyn 5 roedd y disgyblion yn dysgu sgiliau cynllunio drwy ysgrifennu erthyglau papur newydd. Datblygir y sgiliau hynny ymhellach ym Mlwyddyn 6 drwy ddylunio taflen. Fe fydd rhaid i’r disgyblion feddwl yn ofalus hefyd am eu dewis o ddyluniadau (lliwiau, ffontiau, delweddau) ac esbonio pam eu bod wedi gwneud y dewisiadau hynny.

Paratoi:

  • Dysgwch uned am bamffledi sy’n dwyn perswâd gan roi digon o gyfleoedd i’r disgyblion archwilio taflenni proffesiynol a thrafod eu cynnwys.
  • Chwiliwch am amrediad o daflenni/pamffledi sydd yn dangos y nodweddion cynllunio: clawr, gwybodaeth gyswllt, lleoliad, amser agor, ffotograffau, mapiau, dyfyniadau, penawdau ac is-benawdau etc)
  • Gofynnwch i’r disgyblion deipio’r cynnwys ar gyfer prif adrannau’r bamffled (h.y. y testun dwyn perswâd y tu mewn i bamffled) ar dudalen wag mewn gwers flaenorol fel bod modd iddyn nhw ganolbwyntio nawr ar y sgiliau cynllunio a dylunio heb i sgiliau iaith gymhlethu pethau.

Gweithgareddau:

  1. Dangoswch bamffled enghreifftiol yr ydych wedi’i chreu gan ddefnyddio’r un meddalwedd prosesu geiriau ag y bydd y disgyblion yn ei ddefnyddio (Google Docs, Pages neu Word 365).
  2. Disgrifiwch i ba atyniadau y bydd y disgyblion yn creu’r bamffled. Trafodwch y lliwiau fyddai’n gweddu orau i’r atyniad yma a’r agweddau y dylai’r disgyblion eu hamlygu.
  3. Dylai’r disgyblion agor dogfen newydd ar brosesydd geiriau.
  4. Dewiswch ogwydd tirwedd a newid maint yr ymylon gan ddefnyddio Page Setup i ffitio mwy ar y dudalen a rhannu’r dudalen yn ddwy neu dair colofn yn dibynnu ar y math o bamffled. (Mae’r holl sgiliau yma yn dod o weithgaredd papur newydd Blwyddyn 5)
  5. Gweithiwch allan yn ofalus beth sy’n mynd i ba golofn, cofiwch bod y clawr yn mynd ar y dde a’r dudalen gefn yn mynd ar y chwith.
  6. Copïwch y testun o’r gwersi blaenorol i’r blychau testun i greu’r cynnwys ar gyfer y bamffled gyfan (Noder: Yn Google Docs rydych yn cael mynediad i’r blychau testun drwy’r nodwedd Insert -> Drawing. Peidiwch â defnyddio WordArt. Gofynnwch i’ch disgyblion ddewis ffont priodol yn lle hynny.)
  7. Dangoswch i’r disgyblion sut i unioni ffontiau (gwneud i bob llinell gychwyn a gorffen yn yr un lle). Esboniwch bod hyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ysgrifennu ffurfiol fel mewn papurau newydd, pamffledi neu lyfrau. Cyfiawnhewch bob ysgrifennu.
  8. Mewnosodwch luniau a ddarganfuwyd ar y we neu luniau maen nhw wedi tynnu eu hunain os ydyn nhw wedi ymweld â’r atyniad o’r blaen. Mae angen cynnwys map o’r lleoliad drwy dynnu ciplun o Google Maps.
  9. Penderfynwch ar liw testun, lliwiau cefndir (neu ddelweddau), borderi ar gyfer delweddau. Atgoffwch nhw i ddethol lliw a ffontiau sydd yn berthynol i’r atyniad (e.e. glas ar gyfer atyniadau dŵr, gwyrdd ar gyfer natur etc)
  10. Argraffwch yr erthygl o argraffydd penodol. Dangoswch iddyn nhw sut i argraffu 2 ochr fel bod y bamffled yn dod allan o’r argraffydd yn barod i’w phlygu.

Cofiwch

  • Mae’r wers yma’n cynnwys nifer o sgiliau digidol a fydd yn anghyfarwydd i’r rhan fwyaf o ddisgyblion. Dydy hi ddim felly yn wers sydd yn canolbwyntio ar iaith. Dyna pam y dylai’r disgyblion fod wedi ysgrifennu eu cynnwys mewn gwersi blaenorol.
  • Dangoswch y sgiliau yma. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd y disgyblion yn gwybod sut i’w gwneud – fydd y mwyafrif ddim yn gwybod.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu gwneud dewisiadau dylunio gan gymryd fy nghynnwys a fy nghynulleidfa i ystyriaeth.
  • Rwy’n deall sut i unioni ffont, a phryd i wneud hynny.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.3 – Hawliau Digidol

Gallwch gynnal trafodaeth am hawlfraint delweddau ar-lein a sut y dylen ni roi cydnabyddiaeth

2.3 Storio a Rhannu

Mae dysgu eich disgyblion i arbed gwaith yn y ffolder gywir, gydag enw ffeil priodol, yn arbed cymaint o amser i chi yn y pendraw! Cofiwch eu dysgu sut i agor yn ogystal â sut i arbed.

3.1 Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Mae’n debygol y bydd y disgyblion wedi cynllunio’r bamffled cyn iddyn nhw ei hysgrifennu.

3.3 Gwerthuso a Gwella

Eich asesiad cymheiriaid ac/neu hunanasesiad arferol.

Geirfa

cysodi tudalen     tirwedd     colofnau     alinio     blwch testun     amlap     delwedd     unioni

 

Syniadau Amrywio

Gellir ailadrodd y gweithgaredd yma drwy greu erthygl bapur newydd neu wefan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys yr holl sgiliau technoleg pwysig.

Gweithgaredd 2

Darganfod ac Amnewid

Mae’r gweithgaredd syml yma yn dysgu eich disgyblion sut i ddefnyddio’r offeryn ‘Darganfod ac Amnewid’ drwy eu herio i newid prif gymeriad stori yn gyflym o wryw i fenyw (neu fel arall).

Paratoi:

  • Chwiliwch am stori fer, neu ysgrifennwch un gydag un prif gymeriad. (Mae straeon tylwyth teg neu chwedlau adnabyddus yn gweithio’n dda).
  • Arbedwch gopi o’r stori ar brosesydd geiriau (Pages, Google Docs neu Word) lle y gall y disgyblion gael gafael arni.
Find and Replace

Gweithgareddau:

  1. Rhannwch y stori gyda’ch disgyblion. (Os nad ydych yn defnyddio Google Docs neu Office 365, gofynnwch i’r disgyblion agor y ddogfen a defnyddio Arbed Fel i greu eu copi eu hunain).
  2. Esboniwch eich bod eisiau newid y prif gymeriad o fachgen i ferch (neu fel arall)).
  3. Dangoswch iddyn nhw sut i dderfnyddio’r offeryn ‘Darganfod ac Amnewid’ (yn y fwydlen Golygu)).
  4. Maen nhw’n rasio i newid eu straeon. Atgoffwch nhw i newid rhagenwau yn ogystal â’r enw ei hun (e.e. ‘hi’ yn hytrach nag ‘ef’)

Cofiwch

  • Trafodwch pam y gallai’r offeryn ‘Darganfod ac Amnewid’ fod yn ddefnyddiol mewn bywyd go iawn.

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu defnyddio’r offeryn ‘Darganfod ac Amnewid’

Elfennau Fframwaith Eraill

2.3 Storio a Rhannu

Mae dysgu eich disgyblion i arbed gwaith yn y ffolder gywir, gydag enw ffeil priodol, yn arbed cymaint o amser i chi yn y pendraw! Cofiwch eu dysgu sut i agor yn ogystal â sut i arbed.

Geirfa

darganfod ac amnewid

Syniadau Amrywio

Dyma weithgaredd cyflym a hawdd a does dim angen unrhyw amrywiadau.