Cyflwyno
3.2 - Creu
Gweithgaredd 1
Adroddiad Newyddion
Erbyn hyn fe ddylai fod gan eich disgyblion brofiad sylweddol o greu cyflwyniadau gan ddefnyddio un neu ddau feddalwedd (e.e. PowerPoint, Google Slides). Mae’n debygol y byddan nhw hefyd yn weddol gyfforddus gydag offer cydweithio yn y meddalwedd cyflwyno hynny. Mae’r gweithgaredd yma’n canolbwyntio’n bennaf ar ychwanegu un sgil Cyflwyno newydd pwysig i’w repertoire, ond mae hefyd yn gyfle gwych i ymarfer eu Cydweithio.
Siart Llif ar Gyfer Stori Antur
Paratoi:
- Mae’r gweithgaredd yma’n dilyn ymlaen o’r gweithgareddau cyflwyno ym Mlynyddoedd 3-5. Os na chafodd y gweithgareddau hynny eu dysgu i’ch disgyblion yn y blynyddoedd blaenorol, efallai y byddwch yn dymuno edrych ar y rheiny i ddechrau.
- Gwyliwch y fideo isod i ymgyfarwyddo gydas rhai o'r offer yn Google Slides.
- Ysgrifennwch eich stori antur amlddewis eich hun.
Pontio, Animeiddio a Dolenni yn Google Slides
Gweithgareddau:
- Ewch drwy eich stori antur gyda’r dosbarth, gan adael iddyn nhw ddewis pa lwybrau i’w dilyn. Ailadroddwch y stori ychydig o weithiau fel eu bod yn gallu gweld sut mae gwneud gwahanol ddewisiadau yn newid y stori. (Hyd yn oed yn well, chwiliwch am lyfr ‘Dewis eich Antur eich Hun’ go iawn a’i ddarllen gyda’r disgyblion dros gyfnod o amser cyn dechrau ar y gweithgaredd yma).
- Esboniwch y bydd y disgyblion, mewn parau neu grwpiau bychain, yn ysgrifennu eu straeon antur byr eu hunain.
- Mewn grwpiau trafodwch beth fydd yn digwydd yn eu stori. Fe fyddan nhw’n dechrau o’r un sleid â’ch enghraifft chi, ac yna yn addasu’r stori fel y maen nhw’n ddewis.
- Fe ddylai pob stori adael i’r darllenydd wneud dau ddewis o leiaf. Mae’n debygol felly y byddwch angen o leiaf 7 sleid. Dangoswch i’r disgyblion sut i wneud siart llif yn dangos y gwahanol ddewisiadau. (Gweler yr enghraifft uchod).
- Fe fydd y disgyblion yn creu eu siartiau llif eu hunain mewn grwpiau. (Mae hyn yn debygol o gymryd gwers).
- Dangoswch i’r disgyblion sut rydych chi wedi creu’r dolenni o un sleid i’r llall. (Lluniwch flwch testun gyda’r dewis, yna cliciwch y ddolen yn y bar offer a dewis y sleid rydych eisiau mynd iddi)).
- Mae’r grwpiau yn ysgrifennu eu straeon eu hunain. Fe ddylai pob disgybl mewn grŵp ganolbwyntio ar sleid gwahanol gan ddefnyddio meddalwedd cydweithio (Google Docs neu Office 365).
- Ar ôl iddyn nhw orffen ysgrifennu eu stori a chreu’r dolenni, gadewch iddyn nhw ychwanegu delweddau i bob sleid. Dangoswch iddyn nhw sut i guddio delweddau i newid eu siâp, (fel rheol drwy glicio ar dorri ac yna dewis siâp).
- Gwnewch yn siŵr bod pob grŵp yn cael cyfle i gyflwyno eu stori, a gweddill y dosbarth yn gwneud y dewisiadau.
Cofiwch
- Fe fydd y gweithgaredd yma’n cymryd nifer o wersi. Peidiwch â rhuthro.
Nodyn Pwysig
Cofiwch, mae mwy i’r defnydd o sgiliau cyflwyno y flwyddyn yma na’r un gweithgaredd yma. Erbyn hyn fe ddylai eich disgyblion fod yn hyderus wrth ddefnyddio meddalwedd cyflwyno ac felly yn eu defnyddo yn rheolaidd yn eu gwersi.
Ac eithrio’r gweithgaredd uchod, fe ddylech fod yn canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg cyflwyno i hyrwyddo dysgu ar draws pynciau eraill, heb orfod canolbwyntio ar ddysgu sgiliau technoleg cwbl newydd.