Menu

Lluniau a Fideo

3.2 - Creu

Cyflwyniad

Yr agwedd Ffotograffau a Fideos ydy’r un mwyaf hwyliog o ‘Greu’ a dyma o bosibl ydy’r cymorth dysgu mwyaf effeithiol trwy’r holl gwricwlwm, ond os caiff ei ddysgu’n wael, gall hefyd wastraffu amser a bod yn ddibwrpas.

Mae’r gweithgareddau Blwyddyn 6 yma yn dwyn ynghyd yr holl sgiliau a ddysgwyd eisoes i greu fideos ac animeiddio amlrannau.

Fframwaith

3.2 - Creu

  • Defnyddio ystod o feddalwedd i gynhyrchu a mireinio cydrannau aml-gyfryngol
  • Dewis a chyfuno ystod o destun, delwedd, sain, animeiddiad a fideo i sicrhau canlyniad at ddiben penodol; defnyddio dulliau meddalwedd i wella'r canlyniadau ar gyfer cynulleidfaoedd penodol.

Sgil wrth Sgil

  • Creu ffilm allan o ystod o glipiau fideo a lluniau o ffynonellau gwahanol.
  • Defnyddio technoleg Sgrin Werdd i newid cefndir.
  • Creu animeiddiad cynyddol soffistigedig a defnyddio effaith croen nionyn/winwns.
  • Llwytho a rhannu fideos yn rheolaidd ac yn hyderus gyda chynulleidfa briodol gan ddefnyddio ystod o offer ar-lein.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

rhannau     golygu     dyfais     sgrin werdd     stop-symudiad     lanlwytho     mewnforio     allforio

Gweithgaredd 1

Adroddiad Newyddion

green screen

Erbyn Blwyddyn 6, fe ddylai’r disgyblion fod yn gyfforddus gyda chreu amrediad o fideos byr (sioe sleidiau ffotograffau, fideos tri ffaith,animeiddio). Yn y gweithgaredd yma mae angen iddyn nhw greu fideo hirach trwy gysylltu nifer o rai byrion i greu adroddiad newyddion.

Paratoi:

  • Fe ddylai eich disgyblion fod yn gyfarwydd gyda ffeithiau pa bynnag ddigwyddiad sydd yn cael eu sylw. Gall y pwnc fod yn ddigwyddiad hanesyddol, yn ddigwyddiad ysgol neu yn ddigwyddiad o nofel dosbarth. Dyma rai enghreifftiau:
    • Marwolaeth Harri’r VIII
    • Caradog yn cael ei ddal gan y Rhufeiniaid neu ddiflaniad Owain Glyndŵr
    • Suddo’r Titanic
    • Dathliadau Diwrnod Llyfr y Byd (neu Gŵyl Dewi Sant, Comic Relief etc)
    • Ymchwiliad yr heddlu i’r 'Teigr a Ddaeth i De' neu ymgais Gangsta Granny i ladrata
  • Mae eich ysgol angen system i gael fideos oddi ar yr iPad (neu dabled) i’w harbed ar y gweinydd neu yn y cwmwl. Dewisiadau cyffredin ydy Google Drive, J2E neu OneDrive.
  • Chwiliwch am graffeg agor newyddion generig (neu BBC) ar YouTube, lawrlwythwch nhw a’u rhannu gyda chyfrifon cwmwl eich disgyblion.

Gweithgareddau:

  1. Mewn grwpiau o dri, fe ddylai’r disgyblion greu adroddiad newyddion ar eich dewis bwnc. Fe fydd eu hadroddiad yn cynnwys tair rhan a dolenni. Er enghraifft:
    • Graffeg cyflwyno
    • Dolen Groeso
    • Gohebydd (sgrin werdd)
    • Dolen
    • Animeiddio syml (Yakit Kids, Stop Motion)
    • Dolen
    • Sioe sleidiau ffotograffau
    • Dolen Ffarwelio
  2. I ddechrau fe ddylai’r grwpiau greu cynllun, gan benderfynu pa ddarnau maen nhw’n eu cynnwys a beth fydd yn cael ei drafod ym mhob darn.
  3. Yna fe ddylen nhw greu eu tri prif ddarn (ar gyfer cyfarwyddiadau sgrin werdd, animeiddio a sioe sleidiau ffotograffau, gweler gweithgareddau Fideo ym Mlynyddoedd 3-5).
  4. Ychwanegwch y tri darn i iMovie ar yr iPad, ychwanegwch yr agoriad + graffeg cloi o’u Google Drive neu OneDrive.
  5. Ffilmiwch y dolenni yn uniongyrchol oddi mewn i iMovie.
  6. Allforiwch i Camera Roll ac yna i’w gyrrwr cwmwl.
  7. Gwnewch yn siŵr eich bod yn neilltuo amser i wylio’r adroddiadau fel dosbarth a’u rhannu gyda rhieni!

Cofiwch

  • Dydy hwn ddim yn weithgaredd cyflym. Fe fydd yn cymryd dipyn o wersi a dyma ddylai fod yn gam terfynol eich uned gwaith.
  • Cofiwch mai’r disgyblion sydd yn ysgrifennu, cyfarwyddo, cyflwyno, ffilmio, golygu ac yn gwneud popeth eu hunain. Peidiwch â chael eich temptio i gymryd drosodd.
  • Cafodd yr holl sgiliau angenrheidiol eu dysgu yn y blynyddoedd blaenorol. Os na ddigwyddodd hynny yna mae angen i chi eu dysgu cyn rhoi cynnig ar hyn.
  • Dwy reol bwysig wrth greu fideos:
    • Rhaid dal yr iPad wysg ei ochr wrth greu fideos (tirwedd). Dysgwch y plant na ddylen nhw fyth ffilmio mewn portread gan mai dim ond rhan bach o’r sgrin y mae hynny yn ei lenwi.
    • Gwnewch yn siŵr bod y person camera yn sefyll yn agos at y person sy’n siarad. Dydy meicroffonau iPad ddim yn gryf iawn.
  • Gwnewch yn siŵr bod y dosbarth yn cael cyfle i wylio fideos ei gilydd. Diben creu fideos ydy eu dangos!!

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu cyfuno amrywiol gyfryngau i greu adroddiad newyddion.

Elfennau Fframwaith Eraill

1.3 - Hawliau Digidol

Gallwch gynnal trafodaeth am hawlfraint delweddau ar-lein a sut y dylem roi cydnabyddiaeth.

2.3 Storio a Rhannu

Mae dysgu eich disgyblion i allforio i Camera Roll ac yna cael eu gwaith oddi ar yr iPad i weinydd neu gwmwl yn arbed cymaint o amser i chi yn y pendraw!

3.1 Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Trafodwch pa allweddeiriau i‘w defnyddio pan yn chwilio am ddelweddau ar-lein.

3.3 Gwerthuso a Gwella

Gwnewch yn siŵr bod y fideos yn cael eu chwarae i weddill y dosbarth er mwyn iddyn nhw allu roi adborth.

Geirfa

dolen     darnau     cyfuno

Syniadau Amrywio

Fel yr esboniwyd yn yr adran ‘Paratoi’, gall eich adroddiad newyddion fod ar unrhyw thema neu bwnc. Gallech hefyd amrywio’r gweithgaredd yma i greu rhaglen ddogfen. Dyma rai pynciau posibl ar gyfer rhaglen ddogfen:

  • Sut mae planhigion yn tyfu
  • Y system solar
  • Cymru (neu unrhyw wlad rydych yn ei defnyddio fel thema ar hyn o bryd)
  • Y Gemau Olympaidd neu unrhyw achlysur chwaraeon pwysig arall.

Gweithgaredd 2

Clai Stop Symudiad

Mae Stop Symudiad yn weithgaredd ardderchog gan ei fod yn galluogi’r disgyblion i ddefnyddio’u dychymyg. Fe fyddan nhw wedi dysgu’r holl sgiliau allweddol ym Mlynyddoedd 3 a 4, yr unig wahaniaeth ym Mlwyddyn 6 ydy’r defnydd o fodeli clai yn hytrach na darnau o Lego.

Paratoi:

  • Gwnewch yn siŵr bod ap stop symudiad wedi’i osod (mae aps poblogaidd yn cynnwys iMotion neu Stop Motion Studio) a bod yna ddigon o glai ar gael.
  • Dysgwch uned ysgrifennu sgript, gan orffen gyda chyfansoddi sgriptiau byr y gellir eu hanimeiddio gyda chlai. (Rydyn ni’n awgrymu estroniaid, maen nhw’n hwyl i’w creu allan o glai!)
  • Ffurfiwch eich cymeriadau allan o glai. Gwnewch yn siŵr bod eu breichiau yn gallu symud.
  • Lluniwch lwyfan cefndir sgrin werdd allan o blwch grawnfwyd cardfwrdd gyda phapur gwyrdd.
clay animation

Gweithgareddau:

  1. Agorwch eich ap stop-symudiad (argymhellir Stop Motion Studio a Lego Movie, er nad ydy Lego Movieyn yr App Store bellach) a dechreuwch brosiect newydd.
  2. Gosodwch yr iPad wysg ei ochr (tirwedd) fel ei fod yn aros yn unionsyth. Efallai y bydd angen i chi ei osod yn erbyn llyfrau os nad oes gennych stand dal clawr.
  3. Tynnwch lun o’ch llwyfan gwag.
  4. Symudwch y cymeriad cyntaf ychydig i’r golwg, tynnwch lun.
  5. Ailadroddwch cam 4 dro ar ôl tro, gan symud cymeriad neu ychwanegu un arall rhwng pob llun, gan actio eich sgript. (Peidiwch â phoeni am recordio sain eto).
  6. Ar ôl gorffen, dewiswch y cyflymdra rydych eisiau ar gyfer y fideo ac yna ei allforio i Camera Roll.
  7. Mewnforiwch y fideo i’r ap sgrin werdd ac ychwanegwch gefndir (gweler gweithgaredd Sgrin Werdd Blwyddyn 5). Allforiwch eich fideo yn ôl i Camera Roll.
  8. Mewnforiwch eich fideo newydd i iMovie fel prosiect newydd.
  9. Cliciwch ar y botwm meicroffon i recordio eich troslais. Gall gymryd sawl tro i wneud i’ch llais gyd-fynd gyda symudiadau’r cymeriadau.
  10. Ychwanegwch ddelwedd ar y dechrau a’r diwedd a defnyddiwch y botwm Teitlau i ychwanegu teitlau.
  11. Allforiwch i Camera Roll.

Cofiwch

  • Atgoffwch nhw i beidio â brysio. Dydyn nhw ddim eisiau gweld eu llaw yn ymddangos mewn llun sydd wedi’i dynnu ar frys.  Dangoswch iddyn nhw sut i ddileu un llun os ydy hynny’n digwydd.
  • Fe fydd angen i chi gael y fideos o’r iPad i gyfrif gweinydd neu gwmwl eich ysgol (OneDrive, GoogleDrive). Fe fydd bywyd cymaint yn haws i chi os ydych yn hyfforddi’r disgyblion i wneud hyn eu hunain yn ystod y tymor cyntaf!
  • Gwnewch yn siŵr bod y dosbarth yn cael cyfle i eistedd a gwylio’r fideos eu hunain!

Meini Prawf

  • Rwy’n gallu creu stop symudiad gan ddefnyddio clai.
  • Rwy’n gallu defnyddio nifer o aps i greu fideo.

Elfennau Fframwaith Eraill

2.3 Storio a Rhannu

Mae dysgu eich disgyblion i allforio i Camera Roll ac yna cael eu gwaith oddi ar yr iPad i weinydd neu gwmwl yn arbed cymaint o amser i chi yn y pendraw!

3.1 Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

Cynlluniwch yr animeiddio o flaen llaw i sicrhau ei fod yn cyd-fynd gyda’r sgript

3.3 Gwerthuso a gwella

Gwnewch yn siŵr bod y fideos yn cael eu chwarae i weddill y dosbarth er mwyn iddyn nhw allu rhoi adborth (dim ond rhyw 30 eiliad y bydd fideo yn para)

Geirfa

delwedd     stop symudiad     dileu     cyflymdra     croen nionyn/winwns     teitl     hidlwr     allforio     sgrin werdd     clai

Syniadau Amrywio

Os ydych eisiau symleiddio’r prosiect er mwyn cymryd llai o amser, defnyddiwch bobl Lego yn hytrach na chlai. Peidiwch ag anwybyddu’r rhan sgrin werdd fodd bynnag. Mae defnyddio cyfuniad o aps i gwblhau’r prosiect yn sgil pwysig.

Nodyn Pwysig

Rhannu, Rhannu, Rhannu

Gan fod y disgyblion bellach yn dod yn fwy hyderus wrth greu fideos ac animeiddio, mae’n holl bwysig eu bod yn gweld bod eu gwaith yn cael cynulleidfa. Dyma rai ffyrdd o sicrhau bod y plant yn teimlo eu bod wedi gweithio i bwrpas:

  • Dangoswch y fideos yn y dosbarth a thrafodwch yr adborth.
    • Dyma’r math mwyaf sylfaenol o rannu ac fe ddylid ei wneud gyda phob fideo a gwblheir.
  • Gwahodd rhieni/dosbarthiadau eraill/ y pennaeth i ‘Brynhawn Sinema’ i wylio eich gwaith gorffenedig. Dewch â phopcorn!
  • Uwchlwytho i gyfrif cwmwl (One Drive, Google Drive), ac anfon dolen i rieni drwy e-bost.
  • Uwchlwytho i gyfrif cwmwl (One Drive, Google Drive), creu codau QR i’w arddangos yn y dosbarth, o amgylch yr ysgol ac mewn llyfrau gwaith.
    • Mae hwn yn ddull syml iawn o rannu, a dylech ddysgu’r disgyblion sut mae modd ei wneud (neu fel arall fe fydd rhaid i chi ei wneud 30 gwaith eich hun, gan wastraffu llawer o amser!)