Cronfeydd Data
4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data
Gweithgaredd 1
Meysydd Amrywiol
Fe fydd y disgyblion yn gyfarwydd gyda chreu cronfeydd data o’u gwaith ym Mlwyddyn 5. Y cyfan sydd angen inni ei wneud ym Mlwyddyn 6 ydy ymarfer y sgiliau hynny ac ychwanegu dewis o feysydd mwy amrywiol.
Yn hytrach na chynnwys testun neu feysydd rhifiadol yn unig, fe fydd y disgyblion yn ychwanegu dewisiadau dewis lluosog hefyd.
Paratoi
- Gwnewch yn siŵr bod gan y disgyblion gyfrifon mewngofnodi ar gyfer meddalwedd cronfa ddata (Purple Mash neu J2Data)
- Ymgyfarwyddwch gyda’r meddalwedd trwy ddilyn un o’r canllawiau fideo isod i greu eich cronfa ddata eich hun.
Sut i Greu Cronfa Ddata (Purple Mash)
Sut i Greu Cronfa Ddata (J2Data)
Gweithgareddau:
- Atgoffwch y disgyblion sut beth ydy cronfa ddata. Nodwch bod ‘cofnodion’ ynddi, (sef gwrthrychau neu unigolion), pob un yn cynnwys gwybodaeth mewn ‘Meysydd’
- Gofynnwch iddyn nhw pa feysydd fydden nhw’n eu creu ar gyfer cronfa ddata ar bwnc y tymor (e.e. afonydd enwog y byd, mynyddoedd uchaf Cymru, atyniadau poblogaidd, aelodau’r dosbarth).
- Atgoffwch nhw sut i ddechrau cronfa ddata newydd a sut i ychwanegu testun syml neu faes rhifedol.
- Trafodwch a allai unrhyw un o’r meysydd fod yn ddewis lluosog. Dim ond pan mae yna restr fer o atebion posibl y mae hyn yn gweithio (e.e. cyfandiroedd, graddfeydd seren, gwledydd, dinas agosaf).
- Dangoswch sut i ychwanegu dewisiadau lluosog i faes newydd ar gronfa ddata.
- Gofynnwch i’r disgyblion greu cronfa ddata ar eu pwnc, yn cynnwys meysydd testun, rhifedol a dewis lluosog.
- Unwaith y maen nhw wedi cael eu creu, fe ddylen nhw ychwanegu ychydig o gofnodion (e.e. ychwanegu tair neu bedair afon adnabyddus a gwybodaeth adanyn nhw).
Cofiwch
- Os nad ydy eich ysgol wedi mabwysiadu Purple Mash neu J2E eto, mae’n hen bryd iddi wneud hynny. Mae’r J2E am ddim yn Hwb a gellir tanysgrifio i Purple Mash. Soniwch am hyn cyn gynted â phosibl wrth eich Arweinydd Technoleg neu’r Pennaeth!
- Mae’n debygol na fydd gennych ddigon o ddyfeisiadau i bob disgybl yn y dosbarth gael un yr un. Peidiwch â chael eich temptio i rannu cyfrifiaduron. Nid dyna ydy diben yr elfen yma. Os ydy dyfeisiadau yn gyfyngedig, trefnwch i un grŵp weithio ar y tro.
Gweithgaredd 2
Chwilio am Wyliau
Erbyn hyn fe ddylai eich disgyblion fod yn creu ac yn chwilio crofneydd data yn hyderus. Ond, dim ond profiad o feddalwedd cyfeillgar i blant sydd ganddyn nhw, fel Purple Mash neu J2Data. Yn y gweithgaredd yma fe fydd y disgyblion yn ehangu eu sgiliau i’r byd go iawn gan ddefnyddio cronfeydd data proffesiynol fel Expedia neu safleoedd archebu gwestai.
Paratoi:
- Chwiliwch am wefan chwilio am hediadau dibynadwy fel safle chwilio am westai (yn ddymunol, mwy nag un) a rhowch gynnig ar y gweithgaredd eich hun i sicrhau bod y llwybrau hedfan rydych yn chwilio arnyn nhw yn bodoli.
Gweithgareddau:
- Gofynnwch i’r disgyblion pryd y byfdden nhw’n dod ar draws cronfeydd data mewn bywyd go iawn. (Efallai na fyddan nhw’n gallu meddwl am atebion). Gofynnwch iddyn nhw sut y bydden nhw’n mynd ati i archebu gwyliau yn Ffrainc.
- Dangoswch eich safle archebu hediad iddyn nhw, dangoswch sut i’w defnyddio i ddarganfod yr hediad rhataf o’ch maes awyr agosaf i Baris.
- Dywedwch wrth y disgyblion eu bod yn mynd i gynllunio eich gwyliau o Faes Awyr Caerdydd i sawl cyrchfan yn Ffrainc. Mae angen iddyn nhw gael hediadau ddwy ffordd o Gaerdydd i Baris ac yna hediadau mewnol i Bordeaux, Touluse a Nantes. Mae ganddyn nhw ddyddiad cychwyn a dyddiad dychwelyd ond mater iddyn nhw ydy’r gweddill.
- Nodwch beth ydy’ch cyllideb ar gyfer yr holl hediadau. (Gwnewch yn siŵr eich bod wedi sicrhau o flaen llaw ei bod yn bosibl archebu’r holl hediadau o fewn y gyllideb honno!).
- Unwaith y bydd y disgyblion wedi penderfynu ar hediadau, dangoswch eich safle archebu gwestai iddyn nhw. Dangoswch sut i chwilio a sut i hidlo’r canlyniadau yn dibynnu ar raddfeydd seren neu amwynderau.
- Gofynnwch i’ch disgyblion chwilio am westai i chi aros ynddyn nhw ym mhob dinas. Eglurwch pa raddfa seren rydych ei angen a pha amwynderau rydych yn eu hoffi. (Unwaith eto, sicrhewch o flaen llaw bod yna westai ar gael sydd yn cyd-fynd gyda’ch meini prawf).
- Dylai eich disgyblion ysgrifennu amserlen gwyliau gyda dyddiadau, amseroedd, hediadau, gwestai (yn cynnwys ffotograffau) a phrisiau.
Cofiwch
- Mae’r gweithgaredd yma’n dibynnu ar rhywfaint o ymchwil o flaen llaw i sicrhau y bydd y disgyblion yn gallu darganfod y math o hediadau a gwestai rydych chi’n chwilio amdanyn nhw.