Taenlenni
4.2 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data
Gweithgaredd 1
Tueddiadau Rygbi’r Chwe Gwlad
Ar gyfer y gweithgaredd yma mae angen i’ch disgyblion edrych ar daenlen a nodi tueddiadau a phatrymau. Fe fyddan nhw hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio Fformatio Amodol i amlygu cellloedd os ydy Cymru wedi ennill gêm.
Paratoi:
- Rhannwch daenlen (Google Sheet, Excel, Numbers) sydd â chanlyniadau gemau Cymru yn Rygbi’r Chwe Gwlad dros y blynyddoedd diwethaf gyda’ch disgyblion. (Cliciwch ar y botwm isod i ddwyn ein taenlen!)
Gweithgareddau:
- Gofynnwch i’r disgyblion agor y daenlen ar eu dyfeisiadau. Gofynnwch iddyn nhw beth mae’r daenlen yn ei ddangos (canlyniadau Cymru yn Rygbi’r Chwe Gwlad).
- Fe ddylai’r disgyblion ateb rhai cwestiynau dechreuwr ar y data. (Ym mha flwyddyn/flynyddoedd wnaethon nhw ennill y lleiaf o gemau? Pa dîm y mae Cymru wedi eu curo amlaf/leiaf?)
- Mewn parau, fe ddylai’r disgyblion chwilio am unrhyw batrymau neu dueddiadau. Mae modd iddyn nhw gyflwyno’r rhain mewn cyflwyniad (Sleidiau, PowerPoint, Keynote). Dyma rai enghreifftiau:
- Y timau rydyn ni’n chwarae gartref un blwyddyn, rydyn ni’n eu chwarae oddi cartref y flwyddyn wedyn.
- Dydy Cymru ddim wedi colli i’r Eidal yn y cyfnod yma.
- Dydy Cymru ddim wedi ennill mwy na 5 gêm ar ôl ei gilydd nac wedi colli mwy na 5 gêm ar ôl ei gilydd.
- Mae Cymru yn ennill 75% o’u gemau cartref ond dim ond ychydig dros 50% o’u gemau oddi cartref.
- Dim ond un gêm fu’n gyfartal yn y cyfnod yma.
- Mae Cymru wedi ennill 75% o’u gemau cloi, ond llai na 50% o’u gemau agoriadol.
- Er mwyn gwneud y data yn haws i’w ddarllen, esboniwch i’r disgyblion ein bod yn mynd i wneud i’r ddalen amlygu yn awtomatig y gemau y mae Cymru wedi’u hennill.
- Amlygwch golofn F (enw’r ennillydd) a chliciwch de.
- Dewiswch ‘Fformatio Amodol’.
- Newidiwch y gosodiadau ac os ydy’r testun yn cynnwys ‘Cymru’ mae’r gell yn troi’n wyrdd.
- Ailadroddwch hyn i greu ail osodiad fformatio amodol ac os nad ydy’r testun yn cynnwys y gair Cymru, yna fe ddylai droi’n goch.
Cofiwch
- Mae union gamau Fformatio Amodol yn amrywio os ydych yn defnyddio Google Sheets, Excel neu Numbers. Gwnewch chwiliad Google ar "Conditional Formatting in Sheets/Excel/Keynote" i ddarganfod y camau cywir i chi.
Gweithgaredd 2
Torfeydd Rygbi
Mae’r daenlen yma yn rhestru maint y torfeydd ar gyfer gemau rygbi rhyngwladol cartref diweddar Cymru. Fe fydd y disgyblion yn defnyddio fformatio ar gyfer cyfred, dyddiad a chelloedd canran, creu fformiwla sydd yn gweithio allan y canran a defnyddio fformatio amodol i droi rhai celloedd yn wyrdd.
Paratoi:
- Rhowch gynnig ar y gweithgaredd yma eich hun i ddechrau i sicrhau y gallwch helpu’r disgyblion pan fo angen a chael enghraifft i’w dangos iddyn nhw.
Gweithgareddau:
- Dangoswch daenlen i’ch disgyblion fel yr un a nodir uchod (ond dim ond y penawdau a rhestr y gwrthwynebwyr sydd wedi’u llenwi). Fe ddylen nhw ddechrau taenlen newydd a chopïo’r penawdau a’r rhestr o wrthwynebwyr arni.
- Esboniwch bod angen i daenlen wybod pa fath o ddata sydd ym mhob cell. Gall weithio allan y gwahaniaeth rhwng testun a rhifau ond ni fydd yn gwybod yn awtomatig os mai dyddiadau, cyfred, canrannau neu rifau plaen ydy eich rhifau.
- Dangoswch iddyn nhw sut i ddefnyddio’r dewis fformat yn y bar offer i ddweud wrth y daenlen pa fath o ddata sydd mewn cell.
- Fe ddylai’r disgyblion chwilio’r we am yr wybodaeth sylfaenol ar y stadiwm, dyddiadau a maint tyrfaoedd ar gyfer pob gêm (a newid fformatau’r gell lle mae angen) ac am ddelwedd i’w mewnosod.
- Trafodwch sut y byddech yn gweithio allan y canran. (Rhannu maint y dyrfa gyda chapasiti, lluosi gyda chant).
- Mae’r disgyblion yn creu fformiwla ar gyfer y golofn derfynol (yn llawn canrannau). Esboniwch bod gosod y gell ar fformat Canran yn gwneud y gwaith lluosi yn awtomatig ac felly dim ond rhannu y mae’n rhaid i’n fformiwla ei wneud.
- Yn olaf, defnyddiwch Fformatio Amodol (gweler Gweithgaredd 1) i liwio unrhyw dyrfa wedi gwerthu allan yn wyrdd.
Cofiwch
- Dydy taenlenni ddim hanner mor gymhleth ag y mae pobl yn ei feddwl. Cymrwch eich amser gyda’r gweithgaredd yma ac arweiniwch y disgyblion gam wrth gam ac fe fydd yn hawdd (iddyn nhw ac i chi!)