Cydweithio
2.2
Tasgau Ffocws
Gweithio Gyda'n Gilydd
Yr oedran yma, yr unig fath o gydweithio digidol y mae disgwyl i ddisgyblion ei brofi ydy gweithio gyda phartner ar yr un ddyfais. Mae’n debygol bod eich disgyblion wedi bod yn gwneud hyn am gryn amser ond dyma rai cynghorion i wneud y gweithgaredd mor werthfawr â phosibl.
- Defnyddio meddalwedd tynnu llun a theipio fel JIT (trwy Hwb) neu Purple Mash. Fe fydd hyn yn gyfle iddyn nhw ymarfer eu sgiliau llygoden a’u sgiliau teipio.
- Y syniad ydy eu cael i weithio gyda’i gilydd ar yr un dasg. Dydy cael un disgybl i dynnu llun a’u partner wedyn yn tynnu llun arall ddim yn gydweithio.
- Yn rhy aml, gyda’r math yma o weithgaredd mae un disgybl yn gwneud yr holl waith. Gwnewch yn siŵr bod y ddau bartner yn cael tro ar reoli’r llygoden a’r bysellfwrdd.
Darpariaeth Bellach
Ymgyfarwyddo gyda Chydweithio
Rhowch cymaint o gyfleoedd â phosibl i’ch disgyblion weithio gyda’i gilydd ar waith digidol. Defnyddiwch feddalwedd tynnu llun a theipio fel JIT neu Purple Mash ac anogwch nhw i greu llun gyda’i gilydd. Atgoffwch nhw bob amser bod cydweithio’n golygu y dylai pob disgybl gael tro ar reoli’r llygoden a’r bysellfwrdd.
Mae cydweithio digidol gwirioneddol (un ddogfen, sawl awdur ar sawl dyfais) yn gysyniad newydd i’r rhan fwyaf o oedolion, heb sôn am ddisgyblion (nad oes disgwyl iddyn nhw ddysgu sgiliau o’r fath tan Blwyddyn 2). Am y tro, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o gyfleoedd iddyn nhw weld cydweithio go iawn ar waith.
- Mewngofnodwch i’ch prosesydd geiriau cwmwl (Office 365 yn Hwb, neu Google Docs) ar y cyfrifiadur sydd yn gysylltiedig gyda’ch taflunydd. Gofynnwch i gynorthwy-ydd dysgu wneud yr un fath ar gyfrifiadur gwahanol.
- Agorwch ddogfen newydd a rhannwch hi gyda’ch cynorthwy-ydd fel eich bod yn edrych ar yr un ddogfen.
- Wrth i chi siarad gyda’r disgyblion, gofynnwch i’ch cynorthwy-ydd ychwanegu ffotograffau neu eiriau at y ddogfen ar ei gyfrifiadur/chyfrifiadur, fel eu bod yn ymddangos y tu ôl i chi ar y bwrdd gwyn.
- Ffugiwch syndod wrth eu gweld yn ymddangos, a gofyn i’ch cynorthwy-ydd sut mae’n gallu gwneud i bethau ymddangos ar eich cyfrifiadur chi. "Rydyn ni’n dau/dwy ar yr un ddogfen, felly mae unrhyw beth rydw i’n ei ychwanegu yn dod i fyny hefyd ar eich sgrin chi ".
Esboniwch yn rheolaidd sut roeddech chi ac athro/athrawes/cynorthwy-ydd dysgu arall yn gweithio gyda’ch gilydd ar wahanol gyfrifiaduron ar ddogfen rydych yn ei dangos i’r disgyblion.