Storio a Rhannu
2.3
Tasgau Ffocws
Arbed, Arbed, Arbed
Mae yna dri cham i arbed yn gywir, a gellir dysgu’r camau yma ar yr oedran cynnar yma:
- Cofiwch glicio’r botwm ‘Arbed’. Dylai disgyblion fod wedi datblygu’r arferiad yma yn y Meithrin, ond mae eu hatgoffa yn rheolaidd yn dal yn bwysig.
- Arbed yn y ffolder gywir. Peidiwch â phoeni gormod am yr agwedd yma ar hyn o bryd. Os ydych yn defnyddio meddalwedd fel Purple Mash neu J2E yna fel rheol fe fydd y ffolder gywir yn cael ei dewis yn awtomatig.
- Dewis enw ffeil priodol. Hyd yn oed yn CA2, ni fydd llawer o ddisgyblion yn enwi eu dogfennau, neu fe fyddan nhw yn eu henwi mewn ffordd sydd yn ei gwneud yn anodd i’w hadnabod yn nes ymlaen. Ar hyn o bryd, dysgwch eich disgyblion y dylen nhw, wrth arbed eu ffeil, deipio eu henw ac yna gofyn i’r athro/athrawes orffen eu arbedu iddyn nhw.
Y gyfrinach, fel gyda phob sgil, ydy modelu a rhoi cyfleoedd i ymarfer.
Mae angen i ddisgyblion wybod pam eu bod yn arbed. Agorwch gwaith y disgyblion yn rheolaidd ar y bwrdd gwyn rhyngweithiol. Mae hyn yn dangos iddyn nhw bod arbed eu gwaith yn golygu y gallwch ei ailagor yn nes ymlaen, o bosibl ar ddyfais gwahanol.
Darpariaeth Bellach
Botymau Cadw Ar-lein ac All-lein
Mae angen i glicio’r botwm 'Arbed' ddod yn ail natur i’r disgyblion erbyn y byddan nhw’n gadael y Derbyn.
- Gwnewch yn siŵr bod yna luniau mawr drws nesaf i’ch cyfrifiaduron o’r gwahanol fotymau Arbed y gallan nhw ddod ar eu traws (yn dibynnu ar y meddalwedd yr ydych yn ei ddefnyddio yn y dosbarth, o bosibl Purple Mash neu J2E).
- Unrhyw dro y bydd disgybl yn defnyddio cyfrifiadur, boed ar dasg benodol neu fel darpariaeth estynedig, anogwch nhw i gadw eu prosiect.
Rhowch fotwm mawr yng nghanol y dosbarth. Pan mae disgybl yn gorffen unrhyw dasg nad yw’n dasg ar y cyfrifiadur, fe ddylen nhw redeg at y botwm a’i daro i ‘Gadw’r’ gwaith.