Menu

Planning, Sourcing and Searching

3.1

Cyflwyniad

Mae’r elfen hon yn cynwys dau gysyniad cwbl wahanol.

  • Mae ‘cynllunio’ yn cyfeirio at y cynllunio cyn gwneud tasg y byddech yn ei wneud mewn unrhyw bwnc h.y. nodi meini prawf llwyddiant.
  • Ar y llaw arall mae ‘Cyrchu a Chwilio’ yn golygu darganfod gwybodaeth a chyfrwng trwy dechnoleg.

Fframwaith

3.1 - Cynllunio, Cyrchu a Chwilio

  • Pennu maen prawf llwyddiant wrth ymateb i gwestiynau, e.e. gall meini prawf llwyddiant gynnwys sicrhau bod testun llun yng nghanol y llun wrth ei gymryd
  • Dod o hyd i wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, e.e. awgrymu technoleg fel ffynhonnell gwybodaeth ac archwilio gwefannau neu apiau cyfarwydd sy'n seiliedig ar ddelweddau/symbolau.

Sgil wrth Sgil

  • Datblygu rheolaeth annibynnol o’r llygoden (llusgo a gollwng syml)
  • Rhyngweithio gyda chyflwyniadau amlgyfryngau a luniwyd ar gyfer dibenion trawsgwricwlaidd e.e. Mini Mash, tudalennau rhyngrwyd, PowerPoint, fideos.

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

clic     llusgo a gollwng     camera     ffotograff     fideo

Tasgau Ffocws

Darganfod a Llywio

Does fawr o wahaniaeth rhwng yr elfen hon yn y Derbyn a’r hyn roedden nhw’n ei wneud yn y Meithrin. Mae’n ymwneud â datblygu hyder mewn sgiliau rheoli llygoden a darganfod eu ffordd o gwmpas meddalwedd. Y gyfrinach, fel gyda’r rhan fwyaf o sgiliau, ydy modelu a rhoi digon o gyfleoedd i ymarfer.  Dyma rai awgrymiadau:

Nodi Meini Prawf Llwyddiant

Gofynnwch gwestiynau sydd yn eu harwain i adnabod meini prawf llwyddiant boddhaol. Er enghraifft:

  • Wrth ddefnyddio meddalwedd peintio gofynnwch “Ddylen ni dynnu llun bach yn. y canol?" i gael gobeithio, yr ateb “Na, fe ddylai lenwi’r sgrin”.
  • Wrth dynnu lluniau "Os ydych yn tynnu llun o’ch hoff degan, ydych chi’n tynnu llun o hanner y tegan?” i gael yr ateb “Na, mae angen i’r tegan cyfan fod yn y llun”.
  • Wrth deipio eu henw o dan eu gwaith gofynnwch “Ddylai pob llythyren fod yn fach?” i gael yr ateb “Na, rhaid i’r llythyren gyntaf fod yn briflythyren".

Dethol Technoleg

  • Peidiwch â dweud wrth y disgyblion pa ddarn o dechnoleg i’w ddefnyddio bob amser. Rhowch mwy a mwy o gyfleoedd iddyn nhw ddethol y dechnoleg gywir e.e.
    • "Mae angen i chi dynnu llun o Siôn Corn. Pa ap fyddwch chi’n ei ddefnyddio?"
    • "Rydw i eisiau i chi dynnu llun a theipio eich enw oddi tano. Ydy hynny’n haws ar gyfrifiadur neu ar iPad?"
    • "Ewch i dynnu llun o’ch partner yn gweithio."
Painting JIT

Sgiliau Llygoden a Syniadau Llywio:

  • Pan fyddwch eisiau i’ch disgyblion ddefnyddio rhaglen beintio ar y cyfrifiadur (e.e. JIT neu 2Paint), peidiwch â’i baratoi yn llawn ar eu cyfer o flaen llaw. Gadewch iddyn nhw ddarganfod yr eicon cywir i glicio arno ar gyfer y rhaglen beintio.  Fe fydd llun o’r eicon wedi’i argraffu a’i sticio ger y monitor yn eu helpu i’w ddarganfod. Mae’r un peth yn wir wrth agor apiau ar iPad.
  • Gwnewch yn siŵr bod yna ddigon o weithgareddau sydd yn dibynnu ar y disgyblion i lusgo a gollwng gyda llygoden.
    • Gweithgareddau Peintio. Mae defnyddio meddalwedd fel 2Paint neu JIT yn ymarfer llusgo a gollwng da.
    • Gweithgareddau Didoli. Lluniwch powerpoint gyda chylchoedd coch, glas, gwyrdd gyda gwrthrychau o’u hamgylch o’r un lliwiau. Dylai’r disgyblion lusgo’r eitemau i’r cylchoedd lliw cywir.
  • Dysgwch nhw sut i fewngofnodi i gyfrifiaduron yr ysgol neu i’r meddalwedd y maen nhw’n ei ddefnyddio amlaf (e.e. Purple Mash, Hwb). Gwnewch hyn yn weithgaredd benodol a pheidiwch â chael eich temptio i fewngofnodi ar eu rhan er mwyn cyflymu pethau!

Cofiwch

  • Mae llusgo a gollwng yn sgil llygoden allweddol y mae rhai ysgolion wedi’i anghofio yn ddiweddar oherwydd dyfodiad yr iPad. Peidiwch ag anghofio sgiliau llygoden trwy ganolbwyntio yn unig ar iPads. Mae angen i’n disgyblion ddod i arfer gyda defnyddio llygoden a bysellfwrdd hefyd.