Prosesu Geiriau
3.2 - Creu
Tasgau Ffocws
Amser Teipio
Mae teipio yn un o’r sgiliau allweddol y mae nifer o ysgolion wedi ei anwybyddu dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd ein bod yn tybio y bydd plant yn ei ddysgu’n awtomatig. Ond holwch unrhyw athrawon CA2 ac fe fyddan nhw’n dweud wrthych bod disgyblion Blwyddyn 6 hyd yn oed yn cymryd amser hir i deipio brawddegau a pharagraffau. Mae angen inni ddysgu teipio yn gynnar ac felly dyma rai syniadau ar gyfer gweithgareddau:
Adnabod rhannau o’r cyfrifiadur a’i gynnau
- Defnyddiwch y termau cywir ar gyfer rhannau cyfrifiadur yn rheolaidd o flaen y disgyblion (monitor, bysellfwrdd, llygoden, cyfrifiadur, argraffydd) a gofynnwch i’r disgyblion eu hailadrodd.
- Dangoswch iddyn nhw sut i gynnau’r cyfrifiadur. Rhowch gardiau neu bosteri gyda manylion mewngofnodi iddyn nhw a dangoswch iddyn nhw sut i fewngofnodi.
- Os ydych yn defnyddio meddalwedd y mae disgyblion yn mewngofnodi iddyn nhw (e.e. Hwb, Purple Mash, Google Drive), gall eich disgyblion ddechrau ymarfer mewngofnodi iddyn nhw yn annibynnol erbyn diwedd y Derbyn.
Lleoli’r bysellau cywir, teipio llythrennau a rhifau a defnyddio banciau geiriau
- Y cam cyntaf yma ydy pwyntio allan yn glir bod gan rifau a llythrennau ardaloedd eu hunain ar fysellfwrdd.
- Dangoswch eiriau syml i’ch disgyblion (gyda lluniau) a gofynnwch iddyn nhw fod am y cyntaf i ddarganfod y llythrennau a theipio’r gair. Gellir gwneud hyn ar gyfrifiaduron go iawn neu ar luniau o fysellfyrddau.
- Dangoswch iddyn nhw pam ein bod yn defnyddio ‘clo CAPS’ a sut y gall ein helpu i deipio priflythrennau. Heriwch nhw i deipio enwau eu holl ffrindiau, gyda phriflythyren wrth gwrs.
- Defnyddiwch 2Create a Story (Purple Mash) i ailadrodd hoff lyfr. Fe fyddai hyn yn cynnwys tynnu llun a theipio brawddeg oddi tano. Fe fydd angen banciau geiriau i wneud y dasg yma.
Noder: Un broblem fawr gyda theipio yn y Derbyn ydy bod gan y rhan fwyaf o gyfrifiaduron briflythrennau ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yr oedran yma yn adnabod llythrennau bach yn unig. Dyma rai ffyrdd o oresgyn y broblem yma:
- Prynwch fysellfwrdd llythrennau bach (neu prynwch Chromebooks gan fod ganddyn nhw yn aml fysellfyrddau llythrennau bach)
- Prynwch orchudd llythrennau bach ar gyfer eich bysellfyrddau
- Defnyddiwch hyn fel cyfle addysgu gan roi cerdyn i’r disgyblion gyda delwedd o fysellfwrdd llythrennau bach er mwyn iddyn nhw ei ddefnyddio fel canllaw i ddefnyddio bysellfwrdd priflythrennau.
Darpariaeth Bellach
Teipio trwy’r Amser
Fel y crybwyllwyd uchod, mae teipio yn sgil allweddol nad yw’n cael ei ddysgu’n ddigonol yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau Cyfnod Sylfaen. Ymarfer yn rheolaidd ydy’r ateb, felly rhowch ddigon o gyfleoedd iddyn nhw deipio bob wythnos.
- Anogwch nhw i ‘berchnogi eu gwaith eu hunain’ drwy deipio eu henw ar bob tasg ddigidol.
- Tynnu llun o’u hoff degan ac ysgrifennu ei enw oddi tano.
- Teipio a thynnu lluniau o dudalennau straeon rydych wedi’u darllen fel dosbarth (gan ddefnyddio unrhyw raglen beintio fel 2Paint neu 2Create a Story (Purple Mash) neu JIT (J2e trwy Hwb). Mae modd iddyn nhw gopïo’r frawddeg yn uniongyrchol o’r llyfr. Fe fydd hynny yn dal i fod yn ymarfer eu teipio.
- Darparwch fysellfyrddau cyfrifiadur yn eich ardaloedd chwarae rôl er mwyn iddyn nhw allu chwarae teipio.