Llythrennedd Gwybodaeth a Data
4.2
Tasgau Ffocws
Casglu a Didoli
Mae yna ddwy brif her yn yr elfen yma. I ddechrau, mae angen inni wneud yn siŵr bod y disgyblion yn deall bod modd i ddata gael ei gynrychioli mewn gwahanol ffyrdd. Yn ail, rhaid inni ddysgu sut i gasglu a didoli data.
Cymharu grwpiau o wrthrychau/Didoli gwrthrychau i grwpiau
Mae’r ddau sgil yma yn amlwg yn debyg iawn. Dechreuwch trwy ddangos gwrthrychau wedi’u rhannu’n ddau grŵp a holwch y disgyblion pa feini prawf y gwnaethoch eu defnyddio. Dechreuwch gyda rhywbeth syml fel lliw (grŵp o wrthrychau coch, grŵp o wrthrychau glas). Ailadroddwch gydag amrediad o feini prawf eraill, er enghraifft:
- Mawr/Bach
- Ffrwythau/Llysiau
- Ceir/Trennau
- Creaduriaid y môr/Anifeiliaid y tir
- Bwyd/Diod
Unwaith y byddwch yn fodlon bod eich disgyblion wedi deall sut i adnabod sut mae eitemau’n cael eu grwpio, gofynnwch iddyn nhw roi’r eitemau mewn grwpiau eu hunain. Mater i chi ydy dewis pa eitemau i’w rhoi mewn grwpiau; mae yna ddewisiadau diddiwedd ond dyma rai syniadau:
- Eitemau a gasglwyd o’r coed neu o ardd yr ysgol. Rhannwch yn blanhigion/creigiau.
- Cregyn a cherrig a gasglwyd o drip i’r traeth. Rhannwch yn gregyn/cerrig neu bach/mawr.
- Dail a gasglwyd o fuarth yr ysgol. Rhannwch yn fawr/bach neu gwyrdd/brown.
- Lluniau o’r disgyblion yn eich dosbarth. Gellir eu rhannu’n fachgen/merch neu yn ôl lliw gwallt.
Recordio gwybodaeth ar pictogram
Pictogram ydy cam cyntaf plentyn i graffiau. Mae’n debygol iawn eich bod eisoes yn defnyddio pictogramau yn eich dosbarth ac felly fe fydd gennych eich syniadau a’ch adnoddau ardderchog eich hun. Ond rhag ofn nad ydych chi, dyma esboniad cyflym.
Mewngofnodwch i feddalwedd pictogram syml fel 2Count (Purple Mash) neu JIT (J2e yn Hwb). Dylai’r disgyblion greu pictorgam gan ddefnyddio data maen nhw wedi’i gasglu yn y dosbarth, er enghraifft:
- Hoff ffrwyth, mân fwystfil a hoff liw y disgyblion ac yn y blaen.
- Sut mae’r disgyblion yn dod i‘r ysgol (car, cerdded, bws, beic).
- Beth maen nhw wedi ei ddarganfod ar helfa mân fwystfilod.
Fe fydd angen i’r disgyblion ddarganfod llun i fynd gyda phob bar a’i osod i’r rhif cywir. Gwahaniaethwch trwy ofyn i’r disgyblion mwy galluog deipio teitl un gair neu hyd yn oed enwau’r grwpiau (o bosibl ar JIT, nid ar 2Count).
Darpariaeth Bellach
Cornel Ddidoli
Bob wythnos, rhowch gasgliad gwahanol o eitemau mewn ‘Cornel Ddidoli’ neu mewn ‘Blwch Didoli’. Gallwch ddarparu penawdau er mwyn i’r disgyblion ddidoli (e.e. glas/gwyrdd neu pysgod/adar) neu gadewch i’r disgyblion ddewis eu meini prawf eu hunain. Atgoffwch y disgyblion i dynnu llun unwaith y byddan nhw wedi gorffen didoli.