Dinasyddiaeth
1.1, 1.2, 1.3 & 1.4
Gweithgareddau
1.1 – Hunaniaeth, Delwedd ac Enw Da
Rhowch ffotograffau o wahanol bobl i’r disgyblion. Gwnewch yn siŵr bod yna gymysgedd o:
- Staff yr ysgol
- Disgyblion y dosbarth
- Sêr
- Cymeriadau fel Siôn Corn, Elsa, Minion
- Oedolion mewn dillad proffesiynol (meddyg, dyn/menyw siop, adeiladwr, nyrs)
- Pobl cwbl ddieithr (oedolion a phlant)
Gofynnwch i’r disgyblion pa rai maen nhw’n eu hadnabod. Yna gofynnwch iddyn nhw pa rai maen nhw wedi eu cyfarfod. Yn olaf, gofynnwch iddyn nhw pa rai sydd yn ddieithr. Esboniwch bod pobl ddieithr yn cynnwys sêr a hyd yn oed Siôn Corn ac nid oedolion a phlant nad ydyn nhw yn eu hadnabod yn dda yn unig!
Fel mae’r Fframwaith yn nodi, fe ddylai’r gweithgaredd yma fod yn rhan o’ch addysg perygl dieithriaid arferol.
1.2 – Iechyd a Llesiant
Does yna ddim tasgau penodol wedi’u gosod ar gyfer yr elfen yma yn y Meithrin. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r termau cywir yn rheolaidd ar gyfer dyfeisiadau digidol (e.e. gliniadur, cyfrifiadur, Chromebook, iPad, camera, bwrdd gwyn) a gwnewch restr o reolau dosbarth ar drafod offer o’r fath (e.e. peidiwch â rhedeg tra’n cario technoleg, daliwch nhw mewn dwy law, dim cipio.)
1.3 – Hawliau Digidol, Trwyddedu a Pherchnogaeth
Fel ‘Iechyd a Llesiant', does yna ddim gweithgareddau penodol yma. Wrth i ddisgyblion ddod yn fwy cyfarwydd gyda theipio llythrennau (gweler 3.2 ‘Creu’), anogwch nhw i deipio eu henw o dan eu gwaith digidol. Wrth ddangos gwaith disgybl ar y bwrdd gwyn, gwnewch yn siŵr bod enw’r disgybl yn glir a pwyntiwch e allan i’r dosbarth.
1.4 – Ymddygiad ar-lein a Seiberfwlio
Fe ddylai disgyblion allu adnabod gwahanol emosiynau mewn ffotograffau, fideos a delweddau cartŵn. Rhowch gasgliad o ddelweddau iddyn nhw yn dangos oedolion a phlant gyda gwahanol fathau o wynebau. Gofynnwch i’r disgyblion eu trefnu yn hapus/trist neu dig/caredig. Wrth wylio cartŵns neu raglenni teledu plant amser llaeth neu amser chwarae, holwch y plant yn rheolaidd sut mae’r gwahanol gymeriadau yn teimlo.
Pan mae eich disgyblion yn cymryd rhan mewn tasgau technoleg, gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw’n hoffi a dim yn ei hoffi am ddefnyddio technoleg yn y ffordd yna. Gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw’n ei fwynhau ei wneud orau ar gyfrifiadur/iPad, a pham.