Cynllunio, Cyrchu a Chwilio
3.1
Tasgau Ffocws
Llusgo a Gollwng
Rhannau allweddol yr elfen hon yn y Meithrin ydy dysgu’r disgyblion i ddethol y dechnoleg gywir a chychwyn llywio eu ffordd o gwmpas meddalwedd fel Purple Mash neu J2E.
Dethol Technoleg
- Peidiwch dweud wrth y disgyblion pa ddarn o dechnoleg i’w ddefnyddio bob tro. Wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi, dechreuwch roi mwy a mwy o gyfleoedd iddyn nhw ddewis y dechnoleg gywir eu hunain e.e.
- "Mae angen i chi dynnu llun o Siôn Corn. Pa ap fyddwch chi’n ei ddefnyddio?"
- "Rydw i eisiau i chi dynnu llun a theipio eich enw oddi tano. Ydy hynny’n haws ar gyfrifiadur neu ar iPad?"
- "Tynnwch lun o’ch partner yn gweithio."
Syniadau sgiliau Llygoden a Llywio:
- Pan rydych eisiau i’ch disgyblion ddefnyddio rhaglen beintio ar y cyfrifiadur (e.e. JIT neu 2Paint), peidiwch â’i osod ar eu cyfer o flaen llaw. Wrth gwrs gallwch fewngofnodi ar eu rhan, ond rhowch gyfle iddyn nhw ddarganfod yr eicon cywir i glicio ar gyfer rhaglen beintio. Fe fydd llun wedi’i argraffu o’r eicon wedi’i osod ar y sgrin yn eu helpu i’w ddarganfod. Mae’r un peth yn wir wrth agor apiau ar iPad.
- Gwnewch yn siŵr bod yna ddigon o weithgareddau lle mae angen i’r disgyblion ddefnyddio llusgo a gollwng gyda’r llygoden.
- Gweithgareddau Peintio. Mae defnyddio meddalwedd fel 2Paint neu JIT yn ymarfer llusgo a gollwng da.
- Gweithgareddau Didoli. Lluniwch PowerPoint gyda chylch coch, glas a gwyrdd ac amrywiol wrthrychau o’r un lliwiau o’i amgylch. Dylai disgyblion lusgo’r eitemau i’r cylchoedd lliw cywir.
Cofiwch
- Mae llusgo a gollwng yn sgil llygoden allweddol y mae rhai ysgolion wedi’i anghofio yn ddiweddar oherwydd dyfodiad yr iPad. Peidiwch ag anghofio sgiliau llygoden trwy ganolbwyntio yn unig ar iPads. Mae angen i’n disgyblion ddod i arfer gyda defnyddio llygoden a bysellfwrdd hefyd.