Menu

Creu

3.2

'Creu' ydy brenin pob elfen. Mae’n cynnwys agweddau o bron popeth y bydd plentyn yn ei wneud gyda thechnoleg yn yr ysgol. Fe fydd unrhyw brosiect sydd yn cynnwys rhyw ffurf o destun, ffotograffau, lluniau, fideos, sain neu animeiddio yn cynnwys elfennau ohono.

I wneud pethau’n haws rydyn ni wedi rhannu ‘Creu’ yn  dri rhan gwahanol. Cliciwch ar y dewisiadau isod ar gyfer yr holl wahanol weithgareddau.

20161118_141856

Prosesu Geiriau

Mae ysgrifennu erthygl papur newydd yn rhoi ffocws ar osod tudalen. Mae angen creu colofnau, ychwanegu lluniau ac unioni testun.

DeathtoStock_Wired2

Cyflwyno

Fe ddylai eich disgyblion fod yn cyflwyno yn aml yn y dosbarth, ond dyma rai sgiliau penodol y dylsant eu dysgu ym Mlwyddyn 5.

colour-capture

Lluniau a Fideos

Ym Mlwyddyn 5, fe fydd defnydd o dechnoleg sgrin werdd ac apiau animeiddio yn gyfle i'ch disgyblion wella eu sgiliau creadigol.