Menu

TwT 360 – Am Ddim Hyd yr Haf

Gydag ysgolion Cymru ar gau, rydym yn gwybod fod athrawon y wlad yn gweithio yn galed ar gynllunio ar gyfer dysgu o bell. Gyda thechnoleg yn rhan mor hanfodol o’r broses, mae TwT 360 yn mynd i wneud popeth allwn ni i helpu:

1. Bydd holl adnoddau TwT 360 am ddim i ysgolion cynradd Cymru tan ddiwedd y flwyddyn academaidd. Ar gyfer ysgolion cynradd mae TwT 360 wedi ei anelu, ond croeso i ysgolion uwchradd i greu cyfrif heyfd os ydynt eisiau gweld os oes pethau o ddefnydd iddynt. I gael mynediad i’ch ysgol, cliciwch y botwm isod. Bydd y cyfrifon am ddim hyn yn cael mynediad i’n holl adnoddau ac yn ddilys hyd Medi 1af 2020.

2. I sicrhau nad ydy’r ysgolion sydd wedi talu i ddefnyddio ein hadnoddau yn colli allan, bydd eu tanysgrifiad yn cael ei ymestyn am 5 mis ychwanegol heb gost.

3. Dros y cyfnod digynsail hwn, bydd rhan fwyaf o ffocws TwT 360 yn mynd tuag at creu canllawiau fideo ac adnoddau y gallwch chi fel athrawon eu gyrru i’ch disgyblion i’w helpu gyda’u tasgau digidol wrth ddysgu o bell.

4. Byddwn yn parhau i greu adnoddau ar gyfer digwyddiadau o nod, ac yn amlwg fe fydd holl adnoddau’r Safle Sgiliau yn parhau i fod ar gael fel arfer.

Nid yw hwn wedi bod yn benderfyniad hawdd. Busnes bach Cymreig yw TwT 360, a bydd y newid hwn yn golygu na fydd unrhyw incwm yn dod o’n gwefan am y pum mis nesaf. Ond rydym yn teimlo mai dyma’r cam cywir i’w gymryd, yn y gobaith y bydd ein hadnoddau o gymorth i’r athrawon sydd yn gweithio mor galed i ddelio gyda’r sefyllfa bresennol.

Os gwelwch yn dda, gadewch i’ch cydweithwyr mewn ysgolion eraill wybod fod yr holl adnoddau hyn ar gael am ddim, a rhannwch ar wefannau cymdeithasol fel fod y nifer fwyaf posib o athrawon yn gallu defnyddio’r adnoddau.

Rydym eisiau clywed gennych chi’r math o adnoddau fyddai fwyaf o ddefnydd i chi yn ystod y cyfnod anodd hwn, fel ein bod yn gallu canolbwyntio ar greu’r adnoddau mwyaf defnyddiol bosib. Gyrrwch syniadau i ni ar Twitter (@TwT360) neu drwy ebost (post@twt360.com).

Rydyn ni hefyd yn fwy na pharod i roi cyngor i unrhyw ysgol sydd รข chwestiynau am ddefnyddio technoleg i addysgu o bell. Cysylltwch unrhywbryd.

Cofion cynnes,

Guto Aaron
Cyfarwyddwr TwT 360