Menu

Lluniau, Fideos a Llais

3.2 - Creu

Menu

Cyflwyniad

Dros y blynyddoedd diwethaf, wrth i iPads ddod yn fwy cyffredin yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau, mae’r potensial i dynnu lluniau a fideos fel cymorth i ddysgu ac fel dull o helpu plant i fynegi eu creadigrwydd ac i ddangos eu dealltwriaeth wedi dod yn amlwg.

Ym Mlwyddyn 1 rydym eisiau i’n disgyblion ddod yn hyderus wrth dynnu lluniau a dechrau recordio eu lleisiau yn annibynnol.

Fframwaith

3.2 - Creu

  • dewis meddalwedd priodol i gwblhau tasgau er mwyn defnyddio testun, delwedd, sain, animeiddiad a fideo.

Sgil wrth Sgil

  • Tynnu lluniau gyda dyfais syml.
  • Recordio fideo gyda dyfais syml.
  • Recordio eu lleisiau eu hunain ar ap syml.
  • Dechrau recordio sain gyda meddalwedd perthnasol

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

llun     camera     recordio     ffotograff     fideo     tirwedd     portread     dethol     llais

Tasgau Ffocws

Tynnu Lluniau a Fideos

Gweithgareddau Tynnu Llun!

Dylai disgyblion fod yn tynnu lluniau drwy’r amser. Gwnewch yn siŵr bod gennych dasgau wedi’u cynlluno i ganolbwyntio ar y sgiliau dan sylw. Dyma rai awgrymiadau:

  • Tyfu planhigion o hadau (gwnewch yn siŵr eich bod yn argraffu’r rhain fel bod y plant yn gallu gweld eu lluniau).
  • Beth ydy’ch hoff ardal yn yr ysgol (e.e. buarth, coedwig, caffi, cornel ddarllen etc.).
  • Bingo Ffotograff yr Wyddor – Rhowch gardiau i’ch disgyblion gyda 9 sgwâr a llythyren o’r wyddor ym mhob sgwâr. Gofynnwch i’ch disgyblion fynd o gwmpas y dosbarth yn tynnu lluniau gwrthrychau y mae eu henwau’n dechrau gyda’r llythrennau hynny. Ydyn nhw’n gallu llenwi’r cerdyn?

Cofiwch mai’r hyn y dylid canolbwyntio arno yn y gweithgareddau yma ydy sut i dynnu a dethol lluniau da. Dysgwch nhw:

    • Tynnu dau lun o’r un lle, yna gweld pa un oedd y gorau a dileu’r llall.
    • Penderfynu, ar gyfer pob llun, defnyddio iPad/Camera mewn modd tirwedd neu bortread.
    • Penderfynu pa mor bell, neu pa mor agos at y gwrthrych y dylen nhw ddal y camera.

Gellir anfon eu lluniau i gyfrifiadur i edrych arnyn nhw neu i gael eu hargraffu. (Does dim angen iddyn nhw wybod sut i wneud hyn eto, dim ond bod hynny’n bosibl).

Gweithgareddau Recordio Fideo

Yn union fel tynnu lluniau, rydych angen ychydig o weithgareddau sydd yn canolbwyntio ar y sgiliau angenrheidiol i recordio fideo.

  • Ffilmiwch eich gilydd yn ailfyw’r stori o lyfr stori cyfredol y dosbarth.
  • Ffilmio eu partneriaid yn esbonio beth oedd rhan gorau’r wythnos ysgol.

Cofiwch mai’r sgiliau digidol y dylid canolbwyntio arnyn nhw yn ystod y gweithgareddau yma. Dyma rai cynghorion y gallwch eu rhoi i’ch disgyblion:

  • Maen nhw’n ffilmio mewn modd tirwedd nid portread.
  • Mae angen iddyn nhw ffilmio yn ddigon agos at y person sy’n siarad er mwyn clywed eu llais (ond nid yn rhy agos!)
  • Ni ddylai eu fideos fod yn rhy hir. Clipiau byr ydy’r gorau ond yn sicr ddim hirach na rhyw funud o hyd.

Gweithgareddau Recordio Llais

  • Defnyddiwch ap ‘meimio’ fel bod y disgyblion yn gallu gwneud i gymeriadau ddod yn fyw. Gall y disgyblion ddefnyddio’r ap i wneud i unrhyw gymeriad neu wrthrych siarad. Mae modd iddyn nhw roi geiriau yng ngheg y Teigr a ddaeth i de neu gall Norman Preis esbonio’i antur ddiweddaraf.
  • Defnyddiwch Book Creator i osod lluniau a recordio ffeithiau am wahanol ddeinosoriaid (neu fân fwystfilod, neu wledydd neu unrhyw grŵp arall o eitemau).
Yakit Kids - Key Apps

Darpariaeth Bellach

Dydy’r Camera byth yn Cysgu

Ffotograffau

Anogwch y disgyblion i dynnu lluniau’n rheolaidd. Mae’n debygol eich bod angen lluniau o’r rhan fwyaf o weithgareddau i ddibenion tystiolaeth felly beth am gael ‘Monitor Lluniau’ dosbarth wythnosol sydd yn gallu helpu?

Fideos

  • Yn ystod gwersi ymarfer corff sydd yn cynnwys grwpiau yn gwneud gweithgareddau gwahanol ac yn symud o un i’r llall, lluniwch ‘Orsaf Recordydd Fideo’ lle mae’r disgyblion yn creu fideos o’r disgyblion mewn grwpau eraill. Mae hyn yn gweithio hyd yn oed yn well os ydyn nhw’n dangos y fideo ar unwaith i’r disgybl sydd yn y fideo fel bod modd iddi/o adolygu eu perfformiad a gwella ar yr ymdrech nesaf.
  • Ffilmio eu partner yn esbonio sut maen nhw’n datrys cwestiwn mathemateg.
  • Bob dydd Gwener, mae’r disgyblion yn ffilmio ei gilydd yn esbonio beth oedd rhan gorau eu hwythnos. Atgoffwch nhw i stopio ffilmio ar ôl 15 eiliad ar y mwyaf.

Recordio Llais

Mae apiau recordio llais fel Yakit Kids a Book Creator yn addas i unrhyw bwnc (ac mae plant wrth eu bodd yn eu defnyddio!) Gwnewch yn siŵr bod digon o iPads ar gael i’r disgyblion ddefnyddio apiau o’r fath mor aml â phosibl.