Menu

Llythrennedd Gwybodaeth a Data

4.2

Menu

Cyflwyniad

Mae ‘Llythrennedd Data a Gwybodaeth' yn elfen ddiddorol. Mae’n canolbwyntio ar gasglu, didoli a chyflwyno data.

Gall yr elfen yma fod yn ymdrech i athrawon CA2 wrth iddyn nhw ddelio gyda chronfeydd data a thaenlenni, ond i chi yn y Cyfnod Sylfaen mae’n debygol y byddwch yn darganfod eich bod eisoes yn dysgu’r rhan fwyaf o’r sgiliau yma trwy eich gwaith Rhifedd.

Fframwaith

4.1 - Llythrennedd Gwybodaeth a Data

  • Coladu a grwpio data gan ddefnyddio geiriau syml, e.e. sortio lluniau/geiriau
  • Dosbarthu gwrthrychau gan ddefnyddio mwy nag un maen prawf, e.e. labelu grŵp/set
  • Cofnodi data a gesglir mewn fformat addas, e.e. defnyddio siartiau cyfrif, pictogramau a graffiau bloc mewn pecyn cyfrifiadurol syml.

Sgil wrth Sgil

  • Dosbarthu gwrthrych gan ddefnyddio mwy nag un maen prawf.
  • Teipio geiriau neu frawddegau i faes sengl.
  • Casglu a recordio gwybodaeth ar raglen graffio syml (e.e. pictogram, siart bloc, siart cyfrif).

(EAS ICT Skills Framework)

Geirfa

grŵp     didoli     casglu     pictogram     cyfrif     bloc     diagram Venn

Tasgau Ffocws

Didoli a Chreu Graffiau

Mae yna ddwy brif her yn yr elfen yma. Yn gyntaf, mae angen inni ddechrau didoli data yn ôl mwy nag un maen prawf. Yn ail, mae angen inni greu graffiau gan ddefnyddio graffiau syml.

Dosbarthu gwrthrych gan ddefnyddio mwy nag un maen prawf.

Diagramau Venn ydy’r allwedd yma (neu hyd yn oed Diagram Carroll os ydych yn teimlo’n uchelgeisiol).

  • Lluniwch ddiagram Venn gyda dau gylch hula yn gorgyffwrdd. Casglwch gasgliad o wrthrychau, rhai gwyrdd, rhai melyn a chymysgedd o’r ddau liw. Mae’r disgyblion yn eu rhoi mewn trefn yn gywir. Fel her, ychwanegwch ychydig eitemau nad ydyn nhw’n wyrdd nac yn felyn.  
  • Ailadroddwch y gweithgaredd uchod gydag unrhyw feini prawf lle y gall fod yna orgyffwrdd (e.e. ni fydd bach/mawr yn gweithio gan ei bod yn amhosibl i unrhyw wrthrych fod y ddau beth ond gallai metel/pren weithio gan fod y ddau ddeunydd i’w cael mewn rhai gwrthrychau.) Gallwch ddefnyddio rhifau yn lle gwrthrychau (tabl 5/tabl 10).
  • Gellir cyflawni’r gweithgaredd yma ar bapur neu ar gyfrifiadur. Mae yna ddigon o weithgareddau diagram Venn ar gael trwy Google neu ar Hwb.

Casglu a recordio gwybodaeth ar raglen graffio syml (e.e. pictogram, siart bloc, siart cyfrif).

Graff Purple Mash

Gobeithio y bydd eich disgyblion wedi dechrau gweithio gyda phictogramau a siartiau cyfrif yn y Derbyn. Fe ddylen nhw barhau i’w creu ym Mlwyddyn 1, tra’n cael eu cyflwyno i siartiau bloc.

Mewngofnodwch i feddalwedd pictogram neu siart bloc syml fel 2Count / 2Graph (Purple Mash) neu JIT (J2e in Hwb). Dylai disgyblion greu pictogram gan ddefnyddio data maen nhw wedi’i gasglu mewn siartiau cyfrif yn y dosbarth, er enghraifft:

  • Hoff ffrwyth, mân fwystfil, lliw y disgyblion etc.
  • Sut mae disgyblion yn dod i’r ysgol (car, cerdded, bws, beic).
  • Beth wnaethon nhw ei ddarganfod ar helfa män fwystfilod.

Ar gyfer y pictogramau, fe fydd angen i’r disgyblion ddarganfod llun i fynd gyda phob bar a’i osod i’r rhif cywir. Os ydyn nhw’n creu pictogram neu siart bloc, dylai’r disgyblion nodi’r enwau meysydd eu hunain.

Darpariaeth Bellach

Arolygon Personol

Bob wythnos, rhowch wahanol gasgliau o eitemau mewn ‘Cornel Ddidoli’ neu mewn ‘Blwch Didoli’. Gallwch ddarparu categorïau i’r disgybion ddidoli’r eitemau yma ynddyn nhw (e.e. glas/gwyrdd, pysgod/adar) neu gadewch i’r disgyblion ddewis eu meini prawf eu hunain Atgoffwch nhw i dynnu llun unwaith y byddan nhw wedi’u didoli yn ôl eu dewis eu hunain.

Gadewch iddyn nhw greu eu harolygon eu hunain yn ystod eu cyfnod dysgu annibynnol. Mae modd iddyn nhw ddefnyddio’r un meddalwedd pictogram ag y gwnaethon nhw yn ystod y dasg benodol, neu argraffwch a lamineiddiwch siartiau cyfrif a phictogramau gwag iddyn nhw gael creu eu harolygon eu hunain.