Datrys Problemau a Modelu
4.1
Cyngor
Meddwl yn Gyfrifiadurol gyda'r Cyfnod Sylfaen
Os ydych yn athro/athrawes Cyfnod Sylfaen, mae’n debyg y bydd gennych brofiad eisoes o ddysgu nifer o’r sgiliau meddwl yn gyfrifiadurol sydd ynghlwm gyda chodio. Efallai nad ydych wedi meddwl amdanyn nhw fel gweithgareddau codio, ond mae’n debygol eich bod wedi dysgu gyda’r Bee-Bot ac wedi dysgu’r disgyblion sut i ddilyn cyfarwyddiadau. Mae’r ddau beth yn weithgareddau codio.
Mae’r adran hon yn rhoi rhywfaint o gyngor cyffredinol ar wahanol dechnegau codio cyn i chi gychwyn ar y gweithgareddau ar gyfer eich grŵp blwyddyn isod.
Cyflwyniad
Mae meddwl yn gyfrifiadurol yn y Cyfnod Sylfaen yn ymwneud yn bennaf gyda chyfarwyddiadau a rhoi cyfarwyddiadau i symud pobl neu wrthrychau o un lle i’r llall. Ym mhob gweithgaredd, fe fydd un person yn rhoi’r cyfarwyddiadau ac fe fydd person neu wrthrych arall yn symud yn unol â hynny.
Y tri prif ’beth’ yr ydym yn eu rheoli trwy godio yn y Cyfnod Sylfaen ydy robotiaid (e.e. Bee-Bot), pobl eraill neu gymeriad ar sgrin. Fe fyddwn yn edrych ar bob un o’r rhain yn eu tro.
Symud robot (e.e. Bee-Bot)
Mae’r rhan fwyaf o athrawon Cyfnod Sylaen yn gyfarwydd gyda Bee-Bot, ond ydych chi’n ei ddefnyddio’n effeithiol i ddysgu’r sgiliau angenrheidiol?
Yn y cyfnod cynnar yma, y pethau pwysig i ganolbwyntio arnyn nhw ydy:
- Sut i fewnbynnu cyfarwyddiadau i’ch robot (h.y. beth mae’r gwahanol fotymau yn eu gwneud)?
- Sut i symud ymlaen, yn ôl, troi i’r chwith ac i’r dde?
- Defnyddio arddodiaid ac, yn dibynnu ar allu, pwyntiau cwmpawd.
- Adnabod a defnyddio symbolau saeth.
Wrth ddefnyddio Bee-Bot,mae’n ddefnyddiol gwybod bod pob symudiad ymlaen neu yn ôl yn 15cm o hyd. Mae hyn yn wybodaeth ddefnyddiol am ddau reswm:
- Gallwch greu grid o sgwariau 15cm x 15cm ar y llawr gan ddefnyddio tâp. Yna gall y disgyblion godio’r Bee-Bot i amrywiol leoliadau oddi mewn i’r grid.
- Gallwch wneud prennau mesur Bee-Bot 15cm o hyd (allan o gardfwrdd neu gyda lego/ciwbiau) a gall y disgyblion eu defnyddio i ragweld faint o symudiadau ymlaen y mae’r Bee-Bot eu hangen i gyrraedd ei gyrchfan heb gymorth grid.
Symud Pobl
Does dim gwell ffordd o gyflwyno codio na gofyn i’r disgyblion roi cyfarwyddiadau i athro/athrawes neu i ffrind er mwyn eu symud o gwmpas yr ystafell. Mae hyn y helpu eu sgiliau iaith, geirfa a hyder wrth iddyn nhw orfod gweiddi eu cyfarwyddiadau yn uchel, ond mae hefyd yn dod â chysyniadau meddwl yn gyfrifiadurol yn fyw mewn ffordd nad ydy chwarae gêm codio ar iPad yn ei wneud.
Symud Cymeriad Ar-Sgrin
Mae yna gannoedd o gemau codio ar gael ar iPads neu ar-lein, y rhan fwyaf ohonyn nhw am ddim ac o safon da. I’r disgyblion iau, fe fyddem yn awgrymu apiau syml fel Bee-Bot a Kodable (neu Botio, ap codio yn yr iaith Gymraeg!). Tra bydd gadael iddyn nhw chwarae gyda’r apiau yn unig yn helpu i ddatblygu eu sgiliau, mae yna dasgau penodol i flwyddyn ar gael isod sydd yn ymestyn y dysgu.
Tasgau Ffocws
Dilyn a Chreu Cyfarwyddiadau
Ym Mlwyddyn 1 fe ddylai disgyblion fod yn dilyn, addasu a chreu codau i ddatrys problemau.
Dilyn dilyniant o gamau i ddatrys problem.
- Lluniwch set o gyfarwyddiadau ar sut i greu’r deisen Play-Doh berffaith. Gall y cyfarwyddiadau fod yn ysgrifenedig, gellir eu darllen yn uchel, eu recordio neu ar ffurf llun (fel un o’r cyfarwyddiadau dodrefn Ikea) ond peidiwch â dangos llun o’r cynnyrch gorffenedig hyd nes y byddan nhw wedi gorffen. Gofynnwch i’r disgyblion ddilyn y cyfarwyddiadau a gweld os ydy’r hyn maen nhw wedi ei greu yn debyg i’ch un chi.
- Lawrlwythwch ap ‘Ystafell Ddianc’ syml (mae yna gannoedd ohonyn nhw!) ac ysgrifennwch neu recordiwch gyfarwyddiadau i gwblhau lefel. Gofynnwch i’r disgyblion ddilyn y cyfarwyddiadau i ddatrys y pos.
Lluniwch a recordiwch gyfarwyddiadau ysgrifenedig y mae eraill yn eu deall ac yn gallu eu dilyn.
- Defnyddiwch gêm codio sydd â lefelau ar yr iPad fel Bee-Bot neu Kodable. Dylai’r disgyblion ysgrifennu’r cyfarwyddiadau i gwblhau pob lefel ar fwrdd gwyn ac yna gofyn i’w partneriaid eu dilyn.
- Rhowch y digidau 1-9 ar grid Bee-Bot a lluniwch gardiau targed gyda’r rhifau 3-17 arnyn nhw. Mae’r disgybion yn dewis cerdyn targed, yn gweithio allan ddau rif sydd yn adio at ei gilydd i wneud y targed hwnnw ac yna’n ysgrifennu’r cyfarwyddiadau a fydd yn tywys y Bee-Bot i’r ddau rif yna. Mae eu partner yn dilyn y cyfarwyddiadau ac yn ychwanegu’r ddau ddigid at ei gilydd i ddarganfod y rhif targed.
Newid cyfarwyddiadau i gael canlyniad gwahanol.
- Dangoswch god syml iddyn nhw i fynd â Bee-Bot o bwynt A i Bwynt B ar grid. Nawr symudwch bwynt B un gofod i unrhyw gyfeiriad. Ydyn nhw’n gallu newid y cod i gyrraedd pwynt newydd?
Darpariaeth Bellach
Creu Codau Eraill
Fel gyda phob darpariaeth estynedig, y nod ydy rhoi cyfleoedd rheolaidd i’r disgyblion ymarfer eu sgiliau.
Unwaith y bydd y disgyblion wedi gorffen unrhyw un o’r tasgau penodol uchod, gellir addasu’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n ddigon hawdd i ddarpariaeth estynedig. Er enghraifft:
- Ni ddylid cyfyngu ar reoli dyfeisiadau i Bee-Bot yn unig. Dangoswch iddyn nhw sut i reoli rhai dyfeisiadau go iawn fel llungopïwr neu gloc larwm digidol.
- Llunwich ‘Deisen Play-Doh yr Wythnos’ gyda chyfarwyddiadau. Mae’r disgyblion yn dilyn y cyfarwyddiadau i gopïo eich creadigaeth.
- Darparwch ddarnau o drysor y gall un disgybl eu cuddio cyn recordio cyfarwyddiadau i eraill eu darganfod.
- Sicrhau bod y Bee-Bot a’r gridiau/matiau ar gael i’r disgyblion eu defnyddio yn eu hamser eu hunain. (Gwnewch yn siŵr bod y batri yn gweithio!)