Prosesu Geiriau
3.2 - Creu
Tasg Ffocws
Teipio’n Hyderus
Mae teipio yn un o’r sgiliau allweddol y mae nifer o ysgolion wedi ei anwybyddu dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd ein bod yn tybio y bydd plant yn ei ddysgu’n awtomatig. Ond holwch unrhyw athrawon CA2 ac fe fyddan nhw’n dweud wrthych bod disgyblion Blwyddyn 6 hyd yn oed yn cymryd amser hir i deipio brawddegau a pharagraffau. Mae angen inni ddysgu teipio yn gynnar ac felly dyma rai syniadau ar gyfer gweithgareddau.
Enwi a deall rhannau sylfaenol o’r cyfrifiadur a’i gynnau
- Defnyddiwch y termau cywir ar gyfer rhannau cyfrifiadur yn rheolaidd o flaen y disgyblion (monitor, bysellfwrdd, llygoden, cyfrifiadur, argraffydd) a gofynnwch i’r disgyblion eu hailadrodd.
- Dangoswch iddyn nhw sut i gynnau’r cyfrifiadur. Rhowch gardiau neu bosteri gyda manylion mewngofnodi iddyn nhw a dangoswch iddyn nhw sut i fewngofnodi.
- Os ydych yn defnyddio meddalwedd y mae disgyblion yn mewngofnodi iddyn nhw (e.e. Hwb, Purple Mash, Google Drive), peidiwch â mewngofnodi ar eu rhan. Cymrwch amser i’w dysgu sut i wneud hynny eu hunain.
Teipio geiriau a brawddegau byr, adnabod a defnyddio bysellau penodol a defnyddio banciau geiriau a lluniau
- Dangoswch eiriau syml i’ch disgyblion (gyda lluniau) a gofynnwch iddyn nhw fod am y cyntaf i ddarganfod y llythrennau a theipio’r gair. Gellir gwneud hyn ar gyfrifiaduron go iawn neu ar luniau o fysellfyrddau.
- Cyflwynwch y bysellau pwysig (Clo Caps, shift, ôl ofod, dychwelwr, bylchwr, dileu) un ar y tro, efallai fel ‘Bysell yr Wythnos’. Dangoswch iddyn nhw beth mae pob bysell yn ei wneud a rhowch gyfleoedd iddyn nhw eu defnyddio.
- Defnyddiwch raglen fel 2Create a Story (Purple Mash) i ddangos beth wnaethon nhw ar drip ysgol. Fe fyddai hyn yn cynnwys tynnu llun a theipio brawddeg oddi tano. Dylid rhoi banc geiriau iddyn nhw i’w helpu gyda’r agweddau iaith.
- Gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu disgrifiadau o le neu gymeriad gan ddefnyddio prosesydd geiriau (naill ai un syml fel J2E neu 2Write neu un fel Google Docs neu Word). Defnyddiwch Insert-> Clip Art i ychwanegu llun.
Darpariaeth Bellach
Teipio trwy’r Amser
Fel y crybwyllwyd uchod, mae teipio yn sgil allweddol nad yw’n cael ei ddysgu’n ddigonol yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau Cyfnod Sylfaen. Ymarfer yn rheolaidd ydy’r ateb, felly rhowch ddigon o gyfleoedd iddyn nhw deipio bob wythnos.
- ‘Perchnogi eu gwaith eu hunain’ drwy deipio eu henw ar bob tasg ddigidol.
- Tynnu llun o’u hoff gymeriadau llyfr ac ysgrifennu ffeithiau amdanyn nhw oddi tano.
- Teipio tudalennau o’r straeon rydych chi wedi eu darllen fel dosbarth (gan ddefnyddio unrhyw raglen prosesu geiriau).
- Chwarae gemau teipio ar-lein i gyflymu eu teipio.
- Ffugio teipio trwy ddefnyddio bysellfyrddau yn eich ardaloedd chwarae rôl.