Gwerthuso a Gwella
3.3
Gweithgareddau
Mae'r elfen yma yn gofyn i ddisgyblion i esbonio os ydynt wedi cyrraedd y meini prawf. Dyma rai esiamplau o sut i ddefnyddio technoleg i'r math yma o weithgaredd.
- Llanwch brosiect Book Creator ar iPad gyda ffotograffau o’r disgyblion wrth eu gwaith. Mae pob plentyn (gyda chefnogaeth) yn creu recordiad llais (neu fideo) yn esbonio beth roedden nhw’n ei wneud yn y lluniau, a sut maen nhw’n meddwl y gwnaethon nhw mewn perthynas â’r meini prawf.
- Maen nhw’n tynnu llun o’u gwaith ac ar ôl i chi ei roi i mewn i’r prosiect Book Creator, gall y disgyblion recordio fideo neu recordiad llais yn esbonio beth maen nhw wedi ei wneud ac a wnaethon nhw gyflawni eu nodau ai peidio.
- Rhowch rai darnau o waith arbennig ar y wal/llinyn. Mae’r disgyblion yn defnyddio dyfais recordio llais bychan (e.e. peg, bwrdd gwyn etc – mae yna nifer o offer o’r fath ar werth i ysgolion) i ddisgrifio beth maen nhw wedi ei wneud yn y dasg honno a pha mor dda wnaethon nhw.
- Mae disgyblion yn ffilmio ei gilydd gan ddefnyddio iPad, ac yn esbonio os gwnaeth eu gwaith gyflawni’r meini prawf llwyddiant.
Fe ddylai plant Blwyddyn 1 allu roi eu barn ar sut y gwnaethant mewn perthynas a mwy nac un meini prawf.